RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Cyflwyniad
1Trosolwg o’r Rhan hon
(1)
Mae’r Rhan hon yn rheoleiddio—
(a)
gosod anheddau o dan fathau penodol o denantiaethau (a ddiffinnir fel “tenantiaethau domestig” yn adran 2), a
(b)
rheolaeth anheddau sy’n ddarostyngedig i’r cyfryw denantiaethau,
drwy gyfrwng system gofrestru a thrwyddedu.
(2)
Mae’n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid—
(a)
bod yn gofrestredig ar gyfer pob annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu’n cael ei marchnata neu ei chynnig ar gyfer ei gosod o dan denantiaeth o’r fath, y maent yn landlordiaid mewn perthynas â hwy (adran 4), yn ddarostyngedig i eithriadau (adran 5);
(b)
bod yn drwyddedig i ymgymryd â mathau penodol o weithgareddau gosod ar gyfer anheddau sy’n cael eu marchnata neu eu cynnig ar gyfer eu gosod o dan denantiaethau domestig (adran 6), yn ddarostyngedig i eithriadau (adran 8);
(c)
bod yn drwyddedig i ymgymryd â mathau penodol o weithgareddau rheoli eiddo ar gyfer anheddau sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig (adran 7), yn ddarostyngedig i eithriadau (adran 8).
(3)
Mae’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n gweithredu ar ran landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â’r canlynol—
(a)
gwaith gosod mewn perthynas ag annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig ar gyfer ei gosod o dan denantiaeth ddomestig (adran 9);
(b)
gwaith rheoli eiddo mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig (adran 11).
(4)
Mae “gwaith gosod” a “gwaith rheoli eiddo” wedi eu diffinio at ddibenion y Rhan hon yn adrannau 10 a 12; mae’r diffiniadau yn eithrio personau a gweithgareddau penodol o’r gofynion trwyddedu a osodir ar bersonau sy’n gweithredu ar ran landlordiaid.
(5)
Mae’r system o gofrestru a thrwyddedu i’w gweinyddu a’i gorfodi gan berson a ddynodir gan Weinidogion Cymru fel yr awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan neu gan wahanol bersonau a ddynodir fel awdurdodau trwyddedu ar gyfer gwahanol ardaloedd o fewn Cymru (adran 3); gwneir darpariaeth hefyd sy’n galluogi awdurdodau tai lleol i arfer pwerau gorfodi penodol.
(6)
Mae adrannau 14 i 17 ac Atodlen 1 yn darparu ar gyfer sefydlu a chynnal cofrestr gan yr awdurdod trwyddedu ac ar gyfer cofrestru yn gyffredinol.
(7)
Mae adrannau 18 i 27 yn darparu ar gyfer trwyddedau yn gyffredinol; ac
(a)
ni chaiff awdurdod trwyddedu ond rhoi dau fath o drwydded (un ar gyfer landlordiaid a’r llall ar gyfer personau sy’n gweithredu ar ran landlordiaid) ac mae trwyddedau yn cael effaith mewn perthynas â’r ardal y mae awdurdod trwyddedu yn gyfrifol amdani (adran 18);
(b)
er mwyn bod yn drwyddedig rhaid i berson gwrdd â meini prawf penodol, gan gynnwys bod yn berson addas a phriodol (adran 20) a gofynion sy’n ymwneud â hyfforddiant (gweler adran 19).
(8)
Mae’r gofynion a osodir gan y Rhan hon yn cael eu gorfodi gan—
(a)
troseddau mewn perthynas â thorri gofynion cofrestru a thrwyddedu (gweler yr adrannau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2) a (3) ac adrannau 16(3), 23(3), 38(1) a (4) a 39(1) a (2));
(b)
hysbysiadau cosbau penodedig (adran 29);
(c)
gorchmynion atal rhent (adrannau 30 a 31);
(d)
gorchmynion ad-dalu rhent (adrannau 32 a 33).
(9)
Mae adrannau 36 i 39 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sy’n ofynnol neu’n cael ei rhoi at ddibenion y Rhan hon.
(10)
Mae adran 40 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cod ymarfer a gwneir darpariaeth ar gyfer canllawiau (adran 41) a chyfarwyddiadau (adran 42).
(11)
Mae adrannau 43 i 48 yn gwneud darpariaeth atodol.
(12)
Mae adran 49 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch dehongli ac yn mynegeio’r termau wedi eu diffinio a ddefnyddir yn y Rhan hon.