102Adroddiad yn dilyn asesiadLL+C
(1)Ar ôl cynnal asesiad rhaid i awdurdod tai lleol baratoi adroddiad sydd—
(a)yn rhoi manylion ynghylch y modd y cynhaliwyd yr asesiad;
(b)yn cynnwys crynodeb o—
(i)yr ymgynghoriad a gynhaliodd mewn cysylltiad â’r asesiad, a
(ii)yr ymatebion (os y’u cafwyd) i’r ymgynghoriad hwnnw;
(c)yn rhoi manylion ynghylch yr anghenion llety a nodwyd gan yr asesiad.
(2)Rhaid i awdurdod tai lleol gyflwyno’r adroddiad i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt gymeradwyo asesiad yr awdurdod.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cymeradwyo’r asesiad fel y’i cyflwynwyd;
(b)cymeradwyo’r asesiad gydag addasiadau;
(c)gwrthod yr asesiad.
(4)Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod yr asesiad, rhaid i’r awdurdod tai lleol—
(a)diwygio ac ailgyflwyno ei asesiad i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3); neu
(b)cynnal asesiad arall (yn yr achos hwn bydd adran 101(2) a’r adran hon yn gymwys eto, fel pe bai’r asesiad yn cael ei gynnal o dan adran 101(1)).
(5)Rhaid i awdurdod tai lleol gyhoeddi asesiad a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 102 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(b)