Valid from 16/03/2016
103Dyletswydd i gwrdd ag anghenion asesedigLL+C
(1)Os yw asesiad cymeradwy awdurdod tai lleol yn nodi anghenion o fewn ardal yr awdurdod mewn perthynas â darparu safleoedd lle mae modd gosod cartrefi symudol, rhaid i’r awdurdod arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (y pŵer i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol) i’r graddau y bo’n angenrheidiol i gwrdd â’r anghenion hynny.
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol ddarparu mewn safleoedd ar gyfer gosod cartrefi symudol, neu mewn cysylltiad â hwy, fannau gweithio a chyfleusterau ar gyfer cynnal gweithgareddau a wneir fel arfer gan Sipsiwn a Theithwyr.
(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at asesiad cymeradwy awdurdod tai lleol yn gyfeiriad at asesiad mwyaf diweddar yr awdurdod o anghenion llety a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 102(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)