(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod tai leol wedi methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir gan adran 103 caniateir iddynt gyfarwyddo’r awdurdod i arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn cwrdd â’r anghenion a nodwyd yn ei asesiad cymeradwy.
(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod tai lleol y byddai’r cyfarwyddyd yn berthnasol iddo.
(3)Rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo.
(4)Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd pellach;
(c)gellir ei orfodi gan orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 104 mewn grym ar 16.3.2016 gan O.S. 2016/266, ergl. 2(b)