RHAN 3SIPSIWN A THEITHWYR

Cyffredinol

I1I2109Pŵer i ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr yn adran 108 drwy—

a

ychwanegu disgrifiad o bersonau;

b

addasu disgrifiad o bersonau;

c

dileu disgrifiad o bersonau.

2

Caiff gorchymyn o dan yr adran hon hefyd wneud ba bynnag ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ag y bydd Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n briodol o ganlyniad i newid i’r diffiniad a grybwyllir yn is-adran (1).