(1)Caiff Gweinidogion Cymru osod safonau i’w bodloni gan awdurdodau tai lleol mewn cysylltiad ag—
(a)ansawdd y llety a ddarperir gan awdurdodau tai lleol ar gyfer tai;
(b)rhent ar gyfer y cyfryw lety;
(c)ffioedd gwasanaeth ar gyfer y cyfryw lety.
(2)Caiff safonau a osodir o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol gydymffurfio â rheolau a bennir yn y safonau.
(3)Caiff rheolau am rent neu ffioedd gwasanaeth gynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth ar gyfer lefelau isaf neu lefelau uchaf—
(a)rhent neu ffioedd gwasanaeth,
(b)cynnydd neu ostyngiad mewn rhent neu ffioedd gwasanaeth.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)adolygu’r safonau drwy ddyroddi safonau pellach o dan yr adran hon;
(b)tynnu’r safonau yn ôl drwy ddyroddi safonau pellach o dan yr adran hon neu drwy hysbysiad.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi safonau neu hysbysiadau o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 111 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1