115Pwerau mynediadLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ymddengys i Weinidogion Cymru y gallai awdurdod tai lleol fod yn methu â chynnal a chadw neu atgyweirio unrhyw fangre yn unol â safonau a osodir o dan adran 111 neu ganllawiau a ddyroddir o dan adran 112.
(2)Caiff person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol, gan roi dim llai na 28 o ddiwrnodau o rybudd o’i fwriad i’r awdurdod tai lleol dan sylw, fynd i unrhyw fangre o’r fath at ddiben arolygu ac archwilio.
(3)Pan roddir y cyfryw rybudd i awdurdod tai lleol, rhaid i’r awdurdod roi dim llai na saith niwrnod o rybudd o’r arolwg a’r archwiliad arfaethedig i feddiannwr neu feddianwyr y fangre.
(4)Rhaid i awdurdodiad at ddibenion yr adran hon fod yn ysgrifenedig gan ddatgan y diben neu’r dibenion penodol dros awdurdodi mynediad a rhaid, os yw hynny’n ofynnol, ei ddangos ar gyfer ei archwilio gan y meddiannwr neu unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o unrhyw arolwg a gynhelir wrth arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon i’r awdurdod tai lleol dan sylw.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod tai lleol dan sylw dalu y cyfryw swm y bydd Gweinidogion Cymru yn ei benderfynu tuag at gostau cynnal unrhyw arolwg o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 115 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1