116Arfer pwerau ymyrrydLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu—
(a)pa un a i arfer pŵer ymyrryd,
(b)pa bŵer ymyrryd i’w arfer, neu
(c)sut i arfer pŵer ymyrryd.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—
(a)a yw methiant neu fethiant tebygol i fodloni’r safon yn ddigwyddiad rheolaidd neu’n ddigwyddiad unigol, neu’n debygol o fod yn ddigwyddiad rheolaidd neu’n ddigwyddiad unigol;
(b)pa mor gyflym y mae angen mynd i’r afael â’r methiant, neu’r methiant tebygol i fodloni’r safonau.
(3)Yn is-adran (1), ystyr “pŵer ymyrryd” yw pŵer sy’n arferadwy o dan adrannau 117 i 127.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 116 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1