RHAN 4SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL
Safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol
I1I2118Hysbysiad rhybuddio
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod tai lleol os ydynt wedi eu bodloni bod y sail ar gyfer ymyrryd yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—
a
y rhesymau pam eu bod wedi eu bodloni bod y sail yn bodoli;
b
y camau sy’n ofynnol i’r awdurdod eu cymryd er mwyn ymdrin â’r sail ar gyfer ymyrryd;
c
y cyfnod pan fo angen i’r awdurdod gymryd y camau (“y cyfnod cydymffurfio”);
d
y camau y maent yn bwriadu eu cymryd os yw’r awdurdod yn methu â chymryd y camau gofynnol.