xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Yn y Rhan hon, ystyr “gwaith rheoli eiddo” yw gwneud unrhyw un o’r pethau canlynol—
(a)casglu rhent;
(b)bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y tenant mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y denantiaeth;
(c)gwneud trefniadau gyda pherson i ymgymryd â gwaith trwsio neu gynnal a chadw;
(d)gwneud trefniadau gyda thenant neu feddiannwr yr annedd i sicrhau mynediad i’r annedd at unrhyw ddiben;
(e)cadarnhau cynnwys neu gyflwr yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu cadarnhau;
(f)cyflwyno hysbysiad terfynu tenantiaeth.
(2)Ond nid yw “gwaith rheoli eiddo” yn cynnwys gwneud unrhyw un o’r pethau ym mharagraffau (b) i (f) o is-adran (1) pan fo’n cael ei wneud gan berson—
(a)nad yw’n gwneud unrhyw beth arall o fewn is-adran (1), a
(b)nad yw’n gwneud unrhyw beth o fewn adran 10(1) mewn perthynas â’r annedd.
(3)Nid yw “gwaith rheoli eiddo” yn cynnwys y canlynol ychwaith—
(a)gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth gyda landlord;
(b)gwneud pethau o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth, neu gontract am wasanaethau, gyda pherson sydd—
(i)wedi ei gyfarwyddo i ymgymryd â’r gwaith gan landlord, a
(ii)wedi ei drwyddedu i wneud hynny o dan y Rhan hon;
(c)unrhyw beth a wneir gan awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio);
(d)pethau o ddisgrifiad, neu bethau a wneir gan berson o ddisgrifiad, a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 12 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I3A. 12 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1066, ergl. 2
I4A. 12 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(i)