RHAN 4SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL
Safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol
I1I2120Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol gael gwasanaethau cynghori
1
Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.
2
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod tai lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant eraill â pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, ar gyfer darparu gwasanaethau penodedig o natur gynghorol i’r awdurdod.
3
Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu drefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.
4
Yn yr adran hon ac adran 121 ystyr “penodedig” yw penodedig mewn cyfarwyddyd.