RHAN 4SAFONAU AR GYFER TAI CYMDEITHASOL

Safonau ar gyfer tai a ddarperir gan awdurdodau tai lleol

I1I2122Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru neu enwebai gyflawni swyddogaethau

1

Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.

2

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn berthnasol iddynt i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt.

3

Os caiff cyfarwyddyd ei wneud o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod tai lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.