RHAN 5CYLLID TAI
Taliadau mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai
I1132Taliadau setlo
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad sy’n darparu ar gyfer cyfrifo swm taliad mewn perthynas â phob awdurdod tai lleol sy’n cadw Cyfrif Refeniw Tai.
2
Cyfeirir at daliad o’r math a grybwyllir yn is-adran (1) yn y Rhan hon fel “taliad setlo”.
3
Caiff dyfarniad o dan yr adran hon ddarparu ar gyfer cyfrifo’r swm cyfan neu ran o’r swm yn unol â fformiwla neu fformiwlâu.
4
Wrth benderfynu ar fformiwla at y diben hwn, caiff Gweinidogion Cymru gynnwys newidynnau sy’n cael eu ffurfio gan gyfeirio at y cyfryw faterion y maent yn eu hystyried yn briodol.
5
Caiff dyfarniad o dan yr adran hon ddarparu bod effaith y cyfrifiad mewn perthynas ag awdurdod tai lleol fel a ganlyn—
a
bod yn rhaid i Weinidogion Cymru wneud taliad setlo i’r awdurdod tai lleol,
b
bod yn rhaid i’r awdurdod tai lleol wneud taliad setlo i Weinidogion Cymru, neu
c
mai dim yw swm taliad setlo yng nghyswllt yr awdurdod hwnnw.
6
Nid yw is-adrannau (3), (4) a (5) yn cyfyngu ar gyffredinolrwydd y pŵer a roddir gan is-adran (1).