Deddf Tai (Cymru) 2014

14Dyletswydd i gynnal cofrestr mewn perthynas ag eiddo ar rentLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu greu a chynnal cofrestr ar gyfer ei ardal sydd yn cofnodi’r wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(2)Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chaniatáu i’r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth a ddelir ar y gofrestr.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 1 drwy orchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 14 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I3A. 14 mewn grym ar 23.11.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(d)