23Dyletswydd i ddiweddaru gwybodaethLL+C
(1)Rhaid i ddeiliad trwydded hysbysu’r awdurdod trwyddedu yn ysgrifenedig am y newidiadau a ganlyn—
(a)unrhyw newid yn yr enw y cofrestrir deiliad y drwydded oddi tano;
(b)unrhyw newidiadau rhagnodedig.
(2)Rhaid i ddeiliad trwydded gydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (1) o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod cyntaf yr oedd deiliad y drwydded yn gwybod am y newid, neu y dylai fod wedi gwybod amdano.
(3)Mae person sy’n torri’r adran hon yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(4)Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (3) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio yn amddiffyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 23 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I3A. 23 mewn grym ar 23.11.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(m)