(1)Pan brofir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y canlynol—
(a)cyfarwyddwr, rheolwr, neu ysgrifennydd y corff corfforaethol, neu
(b)person sy’n honni cyflawni’r gyfryw swyddogaeth,
mae’r person hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol yn cyflawni’r drosedd ac yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.
(2)Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—
(a)at unrhyw swyddog tebyg arall yn y corff;
(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 35 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1066, ergl. 2
I3A. 35 mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(r)