RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Gwybodaeth
I1I237Pŵer i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfennau neu ddarparu gwybodaeth
1
Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod trwyddedu arfer y pwerau a roddir gan is-adrannau (2) a (3) mewn perthynas â dogfennau neu wybodaeth (yn ôl y digwydd) sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod—
a
at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon, neu
b
at ddiben ymchwilio a oes unrhyw drosedd wedi ei chyflawni o dan y Rhan hon.
2
Caiff person sydd wedi ei awdurdodi o dan is-adran (1) roi hysbysiad i berson perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—
a
cyflwyno unrhyw ddogfennau sydd—
i
wedi eu pennu neu eu disgrifio yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o dan gategori o ddogfen sydd wedi ei bennu neu ei ddisgrifio yn yr hysbysiad, a
ii
sydd yng ngwarchodaeth neu o dan reolaeth y person, a
b
eu cyflwyno ar adeg, mewn lleoliad ac i berson a bennir yn yr hysbysiad.
3
Caiff person sydd wedi ei awdurdodi o dan is-adran (1) roi hysbysiad i berson perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—
a
cyflwyno unrhyw wybodaeth sydd—
i
wedi ei phennu neu ei disgrifio yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o dan gategori o wybodaeth sydd wedi ei phennu neu ei disgrifio yn yr hysbysiad, a
ii
sy’n hysbys i’r person, a
b
ei rhoi mewn modd ac ar ffurf a bennir yn yr hysbysiad.
4
Rhaid i’r hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) gynnwys gwybodaeth am ganlyniadau posibl peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.
5
Caiff y person y cyflwynir unrhyw ddogfen iddo yn unol â hysbysiad o dan is-adrannau (2) neu (3) wneud copi o’r ddogfen.
6
Nid yw’n ofynnol o dan yr adran hon i unrhyw berson gyflwyno unrhyw ddogfen neu roi unrhyw wybodaeth y byddai’r person o fewn ei hawl i wrthod eu rhoi mewn achos yn yr Uchel Lys ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.
7
Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi fel hynny, mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy.
8
Yn yr adran hon, mae “person perthnasol” yn golygu person a gynhwysir yn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau canlynol—
a
person sy’n gwneud cais am drwydded o dan y Rhan hon neu sy’n ddeiliad trwydded o dan y Rhan hon;
b
person sydd ag ystâd neu fuddiant mewn eiddo ar rent;
c
person sy’n ymwneud â gosod neu reoli eiddo ar rent, neu’n bwriadu bod yn ymwneud â hynny;
d
person sy’n preswylio mewn eiddo ar rent.