RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Gwybodaeth

I1I238Gorfodi pwerau cael gafael ar wybodaeth

1

Mae person sy’n methu â gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol iddo ei wneud drwy hysbysiad o dan adran 37 yn cyflawni trosedd.

2

Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1), mae’r ffaith fod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad yn amddiffyniad.

3

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

4

Mae person sy’n mynd ati’n fwriadol i newid, i atal neu i ddinistrio unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol iddo ei chyflwyno gan hysbysiad o dan adran 37 yn cyflawni trosedd.

5

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (4) yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy.

6

Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi fel hynny—

a

mae’r cyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy, a

b

mae’r cyfeiriad at atal dogfen yn cynnwys cyfeiriad at ddinistrio’r ffordd o atgynhyrchu’r wybodaeth.