RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Gwahardd gosod a rheoli heb gofrestriad a thrwydded
I1I3I24Gofyniad i landlord fod yn gofrestredig
1
Rhaid i landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth o’r fath, fod yn gofrestredig o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r annedd (gweler adrannau 14 i 17), oni bai bod eithriad yn adran 5 yn gymwys.
2
Mae landlord sy’n torri is-adran (1) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
3
Mewn achos yn erbyn landlord am drosedd o dan is-adran (2) mae’r ffaith bod gan y landlord esgus rhesymol am beidio â bod yn gofrestredig yn amddiffyniad.