RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Pwerau Gweinidogion Cymru
I1I2I3I440Cod ymarfer
1
Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ymarfer yn pennu safonau mewn perthynas â gosod a rheoli eiddo ar rent.
2
Gellir dyroddi safonau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) mewn perthynas â hyfforddiant.
3
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
dyroddi cod ymarfer sydd, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, yn gymwys i bersonau neu achosion penodedig yn unig, neu’n cael ei gymhwyso’n wahanol i wahanol bersonau neu achosion;
b
diwygio cod ymarfer neu ei dynnu yn ôl.
4
Cyn dyroddi neu ddiwygio cod ymarfer rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau rhesymol i ymgynghori â’r canlynol—
a
personau sy’n gysylltiedig â gosod a rheoli eiddo ar rent a phersonau sy’n meddiannu eiddo ar rent o dan denantiaeth, neu
b
personau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn cynrychioli buddiannau’r personau a grybwyllir ym mharagraff (a),
ar fersiwn ddrafft o’r cod neu fersiwn ddrafft o god diwygiedig (“y cod arfaethedig”).
5
Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r cod arfaethedig (gydag addasiadau neu heb addasiadau), rhaid iddynt osod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
6
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi’r cod arfaethedig ar ffurf y fersiwn ddrafft honno oni bai ei fod wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
7
Unwaith y mae wedi ei gymeradwyo mae’r cod neu’r cod diwygiedig yn dod i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.
8
Caiff Gweinidogion Cymru dynnu cod a wneir o dan yr adran hon yn ôl mewn cod diwygiedig neu drwy gyfarwyddyd.
9
Ni chaniateir i god a gymeradwywyd drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei dynnu yn ôl oni chymeradwyir cynnig i’r perwyl hwnnw drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
10
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob cod neu god diwygiedig a ddyroddir o dan yr adran hon.