RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Pwerau Gweinidogion Cymru
I1I2I3I441Canllawiau
1
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
2
Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
F12A
Caiff canllawiau a roddir i awdurdod trwyddedu gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch materion sydd i’w hystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw methiant i ad-dalu swm unrhyw daliad gwaharddedig neu flaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) yn effeithio ar addasrwydd person i gael ei drwyddedu o dan y Rhan hon.
3
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
rhoi canllawiau o dan y Rhan hon yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig;
b
diwygio canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach;
c
dirymu canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau o dan y Rhan hon neu hysbysiad o dan yr adran hon.
5
Cyn rhoi, diwygio neu ddirymu canllawiau o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau ag y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
6
Gall ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym fodloni’r gofyniad yn is-adran (5).