Deddf Tai (Cymru) 2014

41CanllawiauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

[F1(2A)Caiff canllawiau a roddir i awdurdod trwyddedu gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch materion sydd i’w hystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw methiant i ad-dalu swm unrhyw daliad gwaharddedig neu flaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) yn effeithio ar addasrwydd person i gael ei drwyddedu o dan y Rhan hon.]

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi canllawiau o dan y Rhan hon yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig;

(b)diwygio canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach;

(c)dirymu canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau o dan y Rhan hon neu hysbysiad o dan yr adran hon.

(5)Cyn rhoi, diwygio neu ddirymu canllawiau o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau ag y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(6)Gall ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym fodloni’r gofyniad yn is-adran (5).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 41 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(c), Atod. Rhn. 3

I3A. 41 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(t)

I4A. 41 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1066, ergl. 2