Search Legislation

Deddf Tai (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 42

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 23/11/2016

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 27/04/2015. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Tai (Cymru) 2014, Adran 42. Help about Changes to Legislation

42CyfarwyddiadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig.

(4)Mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd dilynol;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 42 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

Back to top

Options/Help