Deddf Tai (Cymru) 2014

46Rheoliadau ar ffioeddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau a wneir o dan y Rhan hon sy’n rhagnodi swm ffi sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â cheisiadau i fod yn gofrestredig neu yn drwyddedig ddarparu —

(a)mai’r ffi fydd swm a nodir yn y rheoliadau;

(b)y caiff y ffi ei phenderfynu gan berson neu drwy ddull a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff y cyfryw reoliadau ragnodi ffi wahanol ar gyfer gwahanol bersonau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 46 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2