Deddf Tai (Cymru) 2014

5Eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Nid yw’r gofyniad yn adran 4(1) yn gymwys—

(a)os yw’r landlord wedi gwneud cais i’r awdurdod trwyddedu i fod yn gofrestredig mewn perthynas â’r annedd honno ac na phenderfynwyd ar y cais;

(b)am gyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord;

(c)os yw’r landlord yn cymryd camau i adennill meddiant o’r annedd o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr aseinir buddiant y landlord yn yr annedd i’r landlord, am ba hyd bynnag ag y bydd y landlord yn parhau yn ddiwyd i geisio adennill meddiant;

(d)i landlord sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig;

(e)i landlord sy’n gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol;

(f)i berson o ddisgrifiad a bennir at ddibenion yr adran hon mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 5 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I3A. 5 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1066, ergl. 2

I4A. 5 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(b)