RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 1ADOLYGIADAU A STRATEGAETHAU DIGARTREFEDD
I1I250Dyletswydd i gynnal adolygiad digartrefedd a llunio strategaeth ddigartrefedd
1
Rhaid i awdurdod tai lleol (yn gyfnodol, fel sy’n ofynnol gan yr adran hon)—
a
cynnal adolygiad digartrefedd ar gyfer ei ardal, a
b
llunio a mabwysiadu strategaeth ddigartrefedd yn seiliedig ar ganlyniadau’r adolygiad hwnnw.
2
Rhaid i’r awdurdod fabwysiadu strategaeth ddigartrefedd yn 2018 a strategaeth ddigartrefedd newydd ym mhob pedwaredd flwyddyn ar ôl 2018.
3
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (2) drwy orchymyn.
4
Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru gymryd ei strategaeth ddigartrefedd i ystyriaeth wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy heblaw fel awdurdod tai lleol).
5
Nid oes unrhyw beth yn is-adran (4) yn effeithio ar unrhyw ddyletswydd neu ofyniad sy’n codi ar wahân i’r adran hon.
6
Yn y Bennod hon mae i “digartref” yr ystyr a roddir gan adran 55 ac mae “digartrefedd” i’w ddehongli yn unol â hynny.