59Addasrwydd lletyLL+C
(1)Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i’r deddfiadau canlynol—
(a)Rhan 9 o Ddeddf Tai 1985 (clirio slymiau);
(b)Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (gorlenwi);
(c)Rhan 1 o Ddeddf Tai 2004 (cyflwr tai);
(d)Rhan 2 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth);
(e)Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu dethol ar gyfer llety preswyl arall);
(f)Rhan 4 o Ddeddf Tai 2004 (darpariaethau rheoli atodol mewn perthynas â llety preswyl);
(g)Rhan 1 o’r Ddeddf hon (rheoleiddio tai rhentu preifat).
(2)Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i pa un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru bennu’r canlynol drwy orchymyn—
(a)amgylchiadau lle bo llety i’w ystyried yn addas ar gyfer person, a lle na fo i’w ystyried felly, a
(b)materion i’w hystyried neu i’w diystyru wrth benderfynu a yw llety yn addas ar gyfer person.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 59 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I3A. 59 mewn grym ar 27.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 10