RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Gwahardd gosod a rheoli heb gofrestriad a thrwydded
I1I2I3I46Gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod
1
Ni chaniateir i landlord annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth ddomestig wneud unrhyw un o’r pethau a ddisgrifir yn is-adran (2) mewn perthynas â’r annedd oni bai—
a
bod y landlord yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi,
b
mai’r hyn a wneir yw trefnu i asiant awdurdodedig wneud rhywbeth ar ran y landlord, neu
c
bod eithriad yn adran 8 yn gymwys.
2
Y pethau yw—
a
trefnu neu gynnal ymweliadau gan ddarpar denantiaid;
b
casglu tystiolaeth at ddiben penderfynu ar addasrwydd darpar denantiaid (er enghraifft, drwy gadarnhau tystlythyrau, cynnal gwiriadau credyd neu gyfweld darpar denantiaid);
c
paratoi, neu drefnu i baratoi, cytundeb tenantiaeth;
d
paratoi, neu drefnu i baratoi, stocrestr ar gyfer yr annedd neu restr gyflwr ar gyfer yr annedd.
3
Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy orchymyn—
a
diwygio neu hepgor y disgrifiadau o bethau yn is-adran (2) (gan gynnwys pethau a ychwanegir o dan baragraff (b));
b
ychwanegu disgrifiadau pellach o bethau at is-adran (2).
4
Mae landlord sy’n torri is-adran (1) yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.
5
Mewn achos yn erbyn landlord am drosedd o dan is-adran (4) mae’r ffaith bod gan y landlord esgus rhesymol am beidio â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.
6
Yn is-adran (1) ystyr “asiant awdurdodedig” yw—
a
person sy’n drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y lleolir yr annedd ynddi,
b
awdurdod tai lleol (pa un a yw’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol ai peidio), neu
c
mewn perthynas â pharatoi, neu drefnu i baratoi cytundeb tenantiaeth yn unig, cyfreithiwr cymwysedig (o fewn yr ystyr a roddir i “qualified solicitor” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyfreithwyr 1974), person sy’n gweithredu ar ran cyfreithiwr o’r fath neu unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.