RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth
I1I260Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth
1
Rhaid i awdurdod tai lleol sicrhau y darperir gwasanaeth, heb godi tâl amdano, sy’n cynnig y canlynol i bobl yn ei ardal, neu bobl sydd â chysylltiad lleol â’i ardal—
a
gwybodaeth a chyngor yn ymwneud ag atal digartrefedd, sicrhau llety pan fo pobl yn ddigartref, cael gafael ar unrhyw gymorth arall sydd ar gael ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref, a
b
cynhorthwy i gael gafael ar gymorth o dan y Bennod hon neu unrhyw gymorth arall ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref.
2
Mewn perthynas ag is-adran (1)(a), rhaid i’r gwasanaeth gynnwys, yn benodol, gyhoeddi gwybodaeth a chyngor am y materion canlynol—
a
y system y darperir ar ei chyfer gan y Bennod hon a sut y mae’r system yn gweithredu yn ardal yr awdurdod;
b
a oes unrhyw gymorth arall ar gael yn ardal yr awdurdod ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref (pa un a yw’r person o dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn ystyr y Bennod hon ai peidio);
c
sut i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael.
3
Mewn perthynas ag is-adran (1)(b), rhaid i’r gwasanaeth gynnwys, yn Benodol, gynhorthwy i gael gafael ar gymorth i atal person rhag dod yn ddigartref sydd ar gael pa un a yw’r person o dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn ystyr y bennod hon ai peidio.
4
Rhaid i’r awdurdod tai lleol, yn benodol drwy weithio gydag awdurdodau cyhoeddus eraill, cyrff gwirfoddol a phersonau eraill, sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddylunio i ddiwallu anghenion grwpiau sy’n wynebu perygl arbennig o ddigartrefedd, gan gynnwys yn benodol—
a
pobl sy’n gadael y carchar neu lety cadw ieuenctid,
b
pobl ifanc sy’n gadael gofal,
c
pobl sy’n gadael lluoedd arfog rheolaidd y Goron,
d
pobl sy’n gadael yr ysbyty ar ôl triniaeth feddygol am anhwylder meddyliol fel claf preswyl, ac
e
pobl sy’n cael gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned.
5
Caiff dau neu ragor o awdurdodau tai lleol sicrhau ar y cyd y darperir gwasanaeth o dan yr adran hon ar gyfer eu hardaloedd; a phan fônt yn gwneud hynny—
a
mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod tai lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a
b
mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod tai lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfunol.
6
Caniateir i’r gwasanaeth sy’n ofynnol o dan yr adran hon gael ei integreiddio â’r gwasanaeth sy’n ofynnol o dan adran 17 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.