Deddf Tai (Cymru) 2014

63Hysbysu am ganlyniad asesiad
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r awdurdod tai lleol hysbysu’r ceisydd am ganlyniad ei asesiad (neu unrhyw adolygiad o’i asesiad) ac, i’r graddau y bo unrhyw fater yn cael ei benderfynu yn groes i fuddiannau’r ceisydd, roi gwybod i’r ceisydd am y rhesymau dros ei benderfyniad.

(2)Os yw’r awdurdod yn penderfynu bod dyletswydd arno mewn perthynas â’r ceisydd o dan adran 75, ond na fyddai wedi gwneud hynny heblaw ei fod wedi rhoi sylw i berson cyfyngedig, rhaid i’r hysbysiad o dan is-adran (1) hefyd—

(a)rhoi gwybod i’r ceisydd ei fod wedi gwneud y penderfyniad ar y sail honno,

(b)cynnwys enw’r person cyfyngedig,

(c)egluro pam fod y person yn berson cyfyngedig, a

(d)egluro effaith adran 76(5).

(3)Os yw’r awdurdod wedi hysbysu awdurdod tai lleol arall, neu’n bwriadu gwneud hynny, o dan adran 80 (atgyfeirio achosion), rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad hwnnw ar yr un pryd a rhoi gwybod iddo am y rhesymau dros hynny.

(4)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) neu (3) hefyd—

(a)rhoi gwybod i’r ceisydd am ei hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad a’r cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo (gweler adran 85), a

(b)cael ei roi ar ffurf ysgrifenedig ac, os nad yw’n dod i law, gael ei drin fel pe bai wedi ei roi os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

(5)Yn y Bennod hon, ystyr “person cyfyngedig” yw person—

(a)nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon,

(b)sy’n destun rheolaeth fewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, ac

(c)sydd naill ai—

(i)â dim hawl i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yno, neu

(ii)â’r hawl i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yno yn amodol ar y ffaith ei fod yn ei gynnal ac yn ei letya ei hun, ynghyd ag unrhyw ddibynyddion, heb ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus.