RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr

I1I270Angen blaenoriaethol am lety

1

Mae gan y personau canlynol angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon—

a

menyw feichiog neu berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef;

b

person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

c

person—

i

sy’n hyglwyf o ganlyniad i reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu

ii

y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

d

person—

i

sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu

ii

y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

e

person—

i

sy’n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig, neu

ii

y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio’r sawl sy’n cam-drin) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

f

person—

i

sy’n 16 neu’n 17 oed pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, neu

ii

y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

g

person—

i

sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, sy’n wynebu perygl arbennig o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu

ii

y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio camfanteisiwr neu gamfanteisiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

h

person—

i

sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu

ii

y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

i

person—

i

sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu

ii

y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

j

person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy’n hyglwyf o ganlyniad i un o’r rhesymau canlynol—

i

bod wedi bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 F2neu adran 222 o'r Cod Dedfrydu ,

ii

bod wedi ei remandio mewn carchar neu ei draddodi i garchar gan orchymyn llys, neu

iii

bod wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012,

F7k

person—

i

sy’n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu

ii

y gellid disgwyl yn rhesymol i berson sy’n dod o fewn is-baragraff (i) breswylio gydag ef.

neu berson y mae person o’r fath yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef.

2

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu” (“looked after, accommodated or fostered”) yw—

    1. a

      yn derbyn gofal gan awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 22 o Ddeddf Plant 1989),

    2. b

      yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol, neu ar ran corff gwirfoddol,

    3. c

      yn cael ei letya mewn cartref plant preifat,

    4. d

      yn cael ei letya am gyfnod di-dor o dri mis o leiaf—

      1. i

        gan unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig,

      2. ii

        gan F6fwrdd gofal integredig l neu F5GIG Lloegr , neu ar eu rhan,

      3. iii

        gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru wrth arfer swyddogaethau addysg, neu ar ran y cyngor,

      4. iv

        gan awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer swyddogaethau addysg, neu ar ei ran,

      5. v

        mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol, neu

      6. vi

        mewn unrhyw lety a ddarperir gan un neu ragor o Ymddiriedolaethau’r GIG, neu ar eu rhan, neu gan un neu ragor o Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG, neu ar eu rhan, neu

    5. e

      yn cael ei faethu yn breifat (o fewn ystyr adran 66 o Ddeddf Plant 1989).

3

Yn is-adran (2)—

  • ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—

    1. a

      cyngor sir yn Lloegr,

    2. b

      cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr lle nad oes cyngor sir,

    3. c

      cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu

    4. d

      Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;

  • F4“ystyr “bwrdd gofal integredig” (“integrated care board”) yw corff a sefydlir o dan adran 14Z25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • F1O ran “cartref gofal” (“care home”)—

    1. a

      mae iddo’r un ystyr ag a roddir i “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â chartref gofal yn Lloegr, a

    2. b

      ei ystyr yw man yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn cael ei ddarparu;

  • F3...

  • mae i “swyddogaethau addysg” (“education functions”) yr ystyr a roddir gan adran 597(1) o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”)—

    1. a

      mewn perthynas â Chymru, yw ysbyty annibynnol o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac

    2. b

      mewn perthynas â Lloegr, yw ysbyty, fel y’i diffinnir gan adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, nad yw’n ysbyty’r gwasanaeth iechyd (“health service hospital”) o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadrodd gan yr adran honno.