RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr

75Dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben

(1)

Pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) yn dod i ben mewn perthynas â cheisydd o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o adran 74, rhaid i’r awdurdod tai lleol sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu os yw is-adran (2) neu (3) (o’r adran hon) yn gymwys.

(2)

Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod tai lleol—

(a)

yn fodlon—

(i)

nad oes llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu

(ii)

bod gan y ceisydd lety addas, ond nad yw’n debygol y bydd y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 nad yw adran 73 yn gymwys,

(b)

yn fodlon bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth,

(c)

yn fodlon bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol am lety, ac

(d)

os yw’r awdurdod yn rhoi sylw i ba un a yw ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio (gweler adran 77), nad yw’n fodlon y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais;

(3)

Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod tai lleol yn rhoi sylw i ba un a yw’r ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio ac yn fodlon—

(a)

y daeth y ceisydd yn ddigartref yn fwriadol o dan yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais,

(b)

mewn perthynas â’r ceisydd—

(i)

nad oes llety addas ar gael iddo i’w feddiannu, neu

(ii)

bod llety addas gan geisydd, ond nad yw’n debygol y bydd y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 6 mis o leiaf gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 nad yw adran 73 yn gymwys,

(c)

bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth,

(d)

bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol am lety,

(e)

bod y ceisydd—

(i)

yn fenyw feichiog neu’n berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef,

(ii)

yn berson y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef,

(iii)

yn berson nad oedd wedi cyrraedd 21 oed pan wnaed y cais am gymorth neu’n berson y mae’r cyfryw berson yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef, neu

(iv)

yn berson a oedd wedi cyrraedd 21 oed, ond nid 25 oed, pan wnaed y cais am gymorth ac a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu’n berson y mae’r cyfryw berson yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef, a

(f)

nad yw’r awdurdod wedi sicrhau cynnig o lety i’r ceisydd o dan yr adran hon yn flaenorol yn dilyn cais blaenorol am gymorth o dan y Bennod hon, pan wnaed y cynnig hwnnw—

(i)

ar unrhyw bryd o fewn y cyfnod o 5 mlynedd cyn y diwrnod yr hysbyswyd y ceisydd o dan adran 63 bod dyletswydd iddo o dan yr adran hon, a

(ii)

ar y sail bod y ceisydd yn dod o fewn yr is-adran hon.

(4)

At ddibenion is-adrannau (2)(a)(ii) a (3)(b)(ii), mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.