Deddf Tai (Cymru) 2014

77Ystyr bod yn ddigartref yn fwriadolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae person yn ddigartref yn fwriadol at ddibenion y Bennod hon os yw is-adran (2) neu (4) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person yn gwneud unrhyw beth neu’n methu â gwneud unrhyw beth yn fwriadol ac o ganlyniad i hynny mae’r person yn rhoi’r gorau i feddiannu llety sydd ar gael i’r person ei feddiannu ac y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu.

(3)At ddibenion is-adran (2) ni chaniateir trin gweithred ddidwyll neu anwaith didwyll ar ran person nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ffaith berthnasol fel gweithred fwriadol neu anwaith bwriadol.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r person yn ymrwymo i gytundeb sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi’r gorau i feddiannu llety y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu, a

(b)diben y cytundeb yw galluogi’r person i gymhwyso ar gyfer yr hawl i gymorth o dan y Bennod hon,

ac nad oes rheswm da arall pam y mae’r person yn ddigartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 77 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 28