RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr
77Ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol
(1)
Mae person yn ddigartref yn fwriadol at ddibenion y Bennod hon os yw is-adran (2) neu (4) yn gymwys.
(2)
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person yn gwneud unrhyw beth neu’n methu â gwneud unrhyw beth yn fwriadol ac o ganlyniad i hynny mae’r person yn rhoi’r gorau i feddiannu llety sydd ar gael i’r person ei feddiannu ac y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu.
(3)
At ddibenion is-adran (2) ni chaniateir trin gweithred ddidwyll neu anwaith didwyll ar ran person nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ffaith berthnasol fel gweithred fwriadol neu anwaith bwriadol.
(4)
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)
os yw’r person yn ymrwymo i gytundeb sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi’r gorau i feddiannu llety y byddai wedi bod yn rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu, a
(b)
diben y cytundeb yw galluogi’r person i gymhwyso ar gyfer yr hawl i gymorth o dan y Bennod hon,
ac nad oes rheswm da arall pam y mae’r person yn ddigartref.