RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Gwahardd gosod a rheoli heb gofrestriad a thrwydded

I19Gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod

1

Ni chaniateir i berson sy’n gweithredu ar ran landlord annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig i’w gosod o dan denantiaeth ddomestig ymgymryd â gwaith gosod mewn perthynas â’r annedd oni bai bod y person yn drwyddedig i wneud hynny o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi.

2

Mae person sy’n torri yr adran hon yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

3

Mewn achos yn erbyn person am drosedd a gyflawnwyd o dan is-adran (2) mae’r ffaith bod gan y person esgus rhesymol am fethu â bod yn drwyddedig yn amddiffyniad.