RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Darpariaethau atodol

94Gwarchod eiddo: darpariaethau atodol

1

At ddibenion adran 93 caiff yr awdurdod—

a

mynd, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre sy’n breswylfa arferol i’r ceisydd neu a oedd yn breswylfa arferol i’r ceisydd ddiwethaf, a

b

ymdrin ag unrhyw eiddo personol gan y ceisydd mewn unrhyw fodd sy’n rhesymol angenrheidiol, yn arbennig drwy ei storio neu drefnu iddo gael ei storio.

2

Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer o dan is-adran (1)(a), rhaid i’r swyddog y mae’n ei awdurdodi i wneud hynny ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfennaeth ddilys yn nodi’r awdurdodiad i wneud hynny.

3

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn rhwystro arfer y pŵer o dan is-adran (1)(a) yn cyflawni trosedd a yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

4

Pan fo’r ceisydd yn gofyn i’r awdurdod symud ei eiddo i leoliad penodol a enwebir gan y ceisydd—

a

caiff yr awdurdod, os ymddengys iddo bod y cais yn un rhesymol, gyflawni ei gyfrifoldebau o dan adran 93 drwy wneud yr hyn y mae’r ceisydd yn gofyn amdano, a

b

ar ôl gwneud hynny, nid oes ganddo unrhyw ddyletswydd bellach na phŵer pellach i gymryd camau o dan yr adran honno mewn perthynas â’r eiddo hwnnw.

5

Os gwneir cais o’r fath, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd cyn cydymffurfio â’r cais am ganlyniadau gwneud hynny.

6

Os na wneir unrhyw gais o’r fath (neu, os caiff ei wneud, nas gweithredir arno) mae unrhyw ddyletswydd neu bŵer ar ran yr awdurdod i gymryd camau o dan adran 93 yn dod i ben pan fydd o’r farn nad oes unrhyw reswm i gredu bellach bod yna berygl o golli neu niweidio eiddo personol person o ganlyniad i’w anallu i’w warchod neu i ymdrin ag ef.

7

Ond caniateir cadw mewn storfa unrhyw eiddo sy’n cael ei storio yn rhinwedd y ffaith bod yr awdurdod wedi cymryd y cyfryw gamau ac mae unrhyw amodau y’i cymerwyd i storfa ar eu sail yn parhau i gael effaith, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol.

8

Pan fo’r awdurdod—

a

yn peidio â bod yn ddarostyngedig i ddyletswydd i gymryd camau o dan adran 93 mewn perthynas ag eiddo ceisydd, neu

b

yn peidio â bod â’r pwerau i gymryd y cyfryw gamau, ar ôl cymryd y cyfryw gamau yn flaenorol,

rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am y ffaith honno a’r rheswm dros hynny.

9

Rhaid rhoi’r hysbysiad i’r ceisydd—

a

drwy ei drosglwyddo i’r ceisydd, neu

b

ei adael yng nghyfeiriad hysbys diwethaf y ceisydd, neu ei anfon yno.

10

Mae’r cyfeiriadau yn yr adran hon at eiddo personol y ceisydd yn cynnwys eiddo personol unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd.