98CanllawiauLL+C
(1)Wrth arfer ei swyddogaethau yn ymwneud â digartrefedd rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(2)Mae is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â swyddogaethau o dan y Rhan hon ac unrhyw ddeddfiad arall.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)rhoi canllawiau naill ai yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiadau penodedig;
(b)diwygio’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan y Rhan hon;
(c)tynnu’r canllawiau yn ôl drwy roi canllawiau pellach o dan y Rhan hon neu drwy hysbysiad.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan y Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 98 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(c), Atod. Rhn. 3
I3A. 98 mewn grym ar 27.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 49