RHAN 1LL+CCYFLWYNIAD

1Trosolwg o’r Ddeddf honLL+C

(1)Mae wyth Rhan i’r Ddeddf hon.

(2)Mae’r Rhan hon yn cynnwys trosolwg o’r Ddeddf.

(3)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ffioedd a mynediad. Mae’n ymdrin â—

(a)cynnwys cynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys terfyn ffioedd;

(b)methiant i gydymffurfio â therfyn ffioedd neu â gofyniad arall sydd wedi ei gynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad;

(c)dilysrwydd contractau penodol;

(d)monitro cynlluniau ffioedd a mynediad.

(4)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y pwerau sydd ar gael at ddibenion asesu;

(b)y camau y caiff CCAUC eu cymryd mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonol.

(5)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch llunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)cydymffurfedd â’r cod;

(b)y pwerau sydd ar gael at ddibenion monitro cydymffurfedd â’r cod, ac mewn achos o fethu â chydymffurfio â’r cod.

(6)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau—

(a)pan gaiff CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd ar gyfer sefydliad;

(b)pan fo rhaid i CCAUC, neu pan gaiff CCAUC, dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad sefydliad.

(7)Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiadau a chyfarwyddydau a roddir gan CCAUC (gan gynnwys darpariaeth ynghylch adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol).

(8)Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch swyddogaethau CCAUC, gan gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chanllawiau, adroddiadau, gwybodaeth a chyngor.

(9)Mae Rhan 8 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch⁠—

(a)arfer pwerau i wneud rheoliadau;

(b)dehongli’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf.

(10)Mae’r Rhan honno hefyd yn cyflwyno Atodlen sy’n cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau presennol a darpariaeth drosiannol.

Valid from 20/05/2015

RHAN 2LL+CCYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediadLL+C

2Cais gan sefydliad am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediadLL+C

(1)Caiff corff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (3) wneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad.

(2)Mae cynllun ffioedd a mynediad yn gynllun sy’n cydymffurfio ag adrannau 4 i 6.

(3)Mae sefydliad o fewn yr is-adran hon yn sefydliad yng Nghymru—

(a)sy’n darparu addysg uwch, a

(b)sy’n elusen.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad.

3Dynodi darparwyr addysg uwch eraillLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg uwch o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.

(2)Mae darparwr addysg uwch o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—

(a)sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru ac sy’n elusen, ond

(b)na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (4)(d), mae darparwr addysg uwch a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, fel pe bai’n sefydliad.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwneud cais am ddynodiad;

(b)gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);

(c)tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);

(d)effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel sefydliad at ddibenion rhagnodedig).

Cynnwys cynllun ffioedd a mynediadLL+C

4Y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag efLL+C

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad bennu cyfnod y mae i gael effaith mewn cysylltiad ag ef.

(2)Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir fod yn hwy na dwy flynedd.

(3)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adran (2) i roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod a grybwyllir am y tro yn yr is-adran honno.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)CCAUC,

(b)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, ac

(c)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y cyfnod y mae cynllun yn ymwneud ag ef yn gyfeiriadau at y cyfnod a bennir ynddo o dan yr adran hon.

5Terfyn ffioeddLL+C

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad—

(a)pennu terfyn ffioedd, neu

(b)darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd,

mewn perthynas â phob cwrs cymhwysol ac mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd berthnasol (ac at y diben hwn caiff bennu terfynau ffioedd gwahanol neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd gwahanol mewn perthynas â chyrsiau gwahanol ac mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd perthnasol gwahanol).

(2)At y diben hwn—

(a)mae terfyn ffioedd, mewn perthynas â chwrs, yn derfyn na chaniateir i’r ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol, mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â’r cwrs, fynd uwch ei law;

(b)mae cwrs cymhwysol yn gwrs, o unrhyw ddisgrifiad rhagnodedig, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(c)mae blwyddyn academaidd berthnasol, mewn perthynas â chwrs, yn flwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs, ac y mae ffioedd yn daladwy i’r sefydliad mewn cysylltiad â hi, ac sy’n dechrau o fewn y cyfnod y mae’r cynllun ffioedd a mynediad yn ymwneud ag ef.

(3)Pan fo cynllun ffioedd a mynediad yn pennu terfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, ni chaniateir i’r terfyn ffioedd a bennir fynd uwchlaw pa swm bynnag a ragnodir at ddibenion yr adran hon (“yr uchafswm”).

(4)Pan fo cynllun ffioedd a mynediad yn darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, rhaid i’r cynllun bennu nad yw’r terfyn ffioedd y penderfynir arno yn unol â’r cynllun i fynd uwchlaw’r uchafswm.

(5)Mae person cymhwysol, at ddibenion is-adran (2)(a), yn berson—

(a)nad yw’n fyfyriwr rhyngwladol, a

(b)sy’n dod o fewn unrhyw ddosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion yr adran hon.

(6)Ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi disgrifiad o gwrs o dan yr adran hon gael ei arfer er mwyn rhagnodi cwrs ôl-radd, oni bai ei fod yn gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon.

(7)Yn ogystal, ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi disgrifiad o gwrs o dan yr adran hon gael ei arfer er mwyn gwahaniaethu—

(a)mewn perthynas â chyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon, rhwng cyrsiau gwahanol ar sail y pynciau y rhoddir yr hyfforddiant hwnnw arnynt;

(b)mewn perthynas â chyrsiau eraill, rhwng cyrsiau gwahanol ar yr un lefel neu ar lefel gyffelyb ar sail y meysydd astudio neu ymchwil y maent yn ymwneud â hwy.

(8)Mae myfyriwr rhyngwladol yn berson nad yw’n dod o fewn unrhyw ddosbarth o bersonau a ragnodir o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (codi ffioedd uwch yn achos myfyrwyr nad oes ganddynt gysylltiad rhagnodedig â’r Deyrnas Unedig) at ddibenion is-adran (1) neu (2) o’r adran honno.

(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo ffioedd sy’n daladwy i berson, mewn cysylltiad â pherson cymhwysol yn ymgymryd â chwrs, neu â rhan o gwrs, a ddarperir ar ran sefydliad, i’w trin at ddibenion is-adran (2)(a) fel pe baent yn daladwy i’r sefydliad hwnnw mewn cysylltiad â’r person cymhwysol yn ymgymryd â’r cwrs.

6Hybu cyfle cyfartal ac addysg uwchLL+C

(1)Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad gynnwys unrhyw ddarpariaethau a ragnodir sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch.

(2)Caiff cynllun ffioedd a mynediad hefyd gynnwys darpariaethau pellach sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch.

(3)Mae’r darpariaethau y caniateir eu rhagnodi o dan is-adran (1) i’w cynnwys mewn cynllun yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu—

(a)cymryd camau i ddenu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol (neu sicrhau bod camau o’r fath yn cael eu cymryd);

(b)cymryd camau i gadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol (neu sicrhau bod camau o’r fath yn cael eu cymryd);

(c)darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr (neu sicrhau bod cymorth o’r fath yn cael ei ddarparu);

(d)rhoi gwybodaeth ar gael i fyfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ffynhonnell (neu sicrhau bod gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhoi ar gael).

(4)Mae’r darpariaethau y caniateir eu rhagnodi i’w cynnwys mewn cynllun hefyd yn cynnwys darpariaethau—

(a)sy’n nodi amcanion sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;

(b)sy’n nodi gwybodaeth am wariant mewn cysylltiad â’r amcanion hynny;

(c)sy’n ymwneud â’r monitro gan y corff llywodraethu o—

(i)cydymffurfedd â darpariaethau’r cynllun;

(ii)y cynnydd sydd wedi ei wneud i gyflawni unrhyw amcanion a nodir yn y cynllun yn rhinwedd paragraff (a).

(5)Ond ni chaniateir i’r pŵer i ragnodi darpariaethau i’w cynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad gael ei arfer er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gynllun sy’n ymwneud â sefydliad gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n cyfeirio at gyrsiau penodol neu at y dull o addysgu, goruchwylio neu asesu cyrsiau,

(b)sy’n ymwneud â’r meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sefydliad fynd i wariant, mewn unrhyw flwyddyn academaidd, o swm sy’n mynd uwchlaw swm incwm ffioedd cymhwysol y sefydliad y gellir ei briodoli i’r flwyddyn academaidd honno.

(6)At ddibenion yr adran hon—

(a)swm incwm ffioedd cymhwysol sefydliad y gellir ei briodoli i flwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd hynny sy’n daladwy i’r sefydliad, mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno, y mae terfyn ffioedd a bennir yn y cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad yn gymwys mewn perthynas ag ef, neu y mae’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad yn darparu ar gyfer penderfynu arno;

(b)“grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol”, mewn perthynas â chynllun ffioedd a mynediad, yw grwpiau nad oes ganddynt, ar ddyddiad cymeradwyo’r cynllun o dan adran 7, gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.

(7)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ofynion cyffredinol cynllun ffioedd a mynediad yn gyfeiriadau at ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun yn rhinwedd yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud (neu beidio â gwneud) pethau penodedig.

Cymeradwyo etc cynllun ffioedd a mynediadLL+C

7Cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediadLL+C

(1)Os gwneir cais i CCAUC i gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad o dan adran 2, rhaid i CCAUC drwy roi hysbysiad i’r corff llywodraethu o dan sylw naill ai—

(a)cymeradwyo’r cynllun, neu

(b)gwrthod y cynllun.

(2)Ond ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y sefydliad y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef o fewn adran 2(3).

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun o dan yr adran hon.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, y cyfnod pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad ac sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon mewn grym yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y’i cymeradwyir o dan yr adran hon, ac sy’n dod i ben ar ba un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—

(a)y diwrnod y daw’r cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef i ben;

(b)os caiff cymeradwyaeth CCAUC i’r cynllun ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad a roddir o dan adran 38 neu 39, dyddiad yr hysbysiad.

(5)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at gynllun a gymeradwywyd yn gyfeiriadau at gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon ac sydd mewn grym ar hyn o bryd;

(b)mae cyfeiriadau at sefydliad rheoleiddiedig yn gyfeiriadau at sefydliad y mae cynllun a gymeradwywyd yn ymwneud ag ef (ond gweler adrannau 26 a 27(8)).

(6)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 37(5) (peidio â chymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd).

(7)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan is-adran (1)(b), gweler adrannau 41 i 44.

8Cyhoeddi cynllun a gymeradwywydLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig gyhoeddi cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae cynllun i’w gyhoeddi.

9Amrywio cynllun a gymeradwywydLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n caniatáu i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig amrywio cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(2)Rhaid i’r rheoliadau ddarparu mai dim ond os caiff amrywiad ei gymeradwyo gan CCAUC y mae i gymryd effaith.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth i amrywiad a phenderfynu ar y ceisiadau hynny.

Cydymffurfio â’r terfyn ffioeddLL+C

Valid from 01/09/2015

10Terfynau ar ffioedd myfyrwyrLL+C

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (2) sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

(2)Mae sefydliad yn dod o fewn yr is-adran hon os yw cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud ag ef wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).

(3)“Ffioedd cwrs rheoleiddiedig” yw’r ffioedd sy’n daladwy i’r sefydliad gan berson cymhwysol—

(a)mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, a

(b)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs hwnnw, pan fo’r flwyddyn honno yn dechrau ar adeg o fewn y cyfnod a bennir o dan adran 4 yng nghynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad (pa un a yw’r cynllun hwnnw mewn grym o hyd ai peidio).

(4)Cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yw’r cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd yn fwyaf diweddar o dan adran 7 mewn perthynas â’r sefydliad.

(5)Y terfyn ffioedd cymwys yw—

(a)mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn pennu terfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw;

(b)mewn achos pan fo cynllun ffioedd a mynediad diweddaraf y sefydliad yn darparu ar gyfer penderfynu ar derfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw fel y penderfynir arno yn unol â’r cynllun.

11Cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-daluLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad wedi methu â chydymffurfio ag adran 10(1).

(2)Caiff CCAUC gyfarwyddo’r corff llywodraethu i wneud naill ai un o’r canlynol neu’r ddau—

(a)cydymffurfio ag adran 10(1);

(b)ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn a dalwyd i’r sefydliad.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon (“cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu”) bennu⁠—

(a)y camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at y diben o gydymffurfio ag adran 10(1);

(b)y modd y mae ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn i fod i gael ei roi ar waith, neu y gall gael ei roi ar waith.

(4)Os yw CCAUC yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddo—

(a)rhoi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru;

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio ag is-adran (4).

(6)Mae “ffioedd uwchlaw’r terfyn” yn ffioedd cwrs rheoleiddiedig, i’r graddau y mae’r ffioedd hynny yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys (fel y’i meintiolir at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 10(1) y mae’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â hi).

Valid from 01/08/2017

Valid from 01/09/2015

Valid from 20/05/2015

RHAN 3LL+CANSAWDD YR ADDYSG

Asesu ansawdd yr addysgLL+C

17Asesu ansawdd yr addysgLL+C

(1)Rhaid i CCAUC asesu, neu wneud trefniadau ar gyfer asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru—

(a)gan bob sefydliad rheoleiddiedig;

(b)ar ran pob sefydliad rheoleiddiedig (pa un ai gan sefydliad rheoleiddiedig arall neu gan ddarparwr allanol).

(2)At ddibenion is-adran (1), mae addysg a ddarperir y tu allan i Gymru i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu yng Nghymru os y’i darperir fel rhan o gwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru.

(3)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at ddarparwr allanol yn gyfeiriadau at berson—

(a)nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig, ond

(b)sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs addysg cyfan, neu ran ohono, ar ran sefydliad rheoleiddiedig.

(4)At ddibenion is-adran (3)(b)—

(a)caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan fo person i’w drin (neu nad yw i’w drin) fel person sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs (neu ran ohono);

(b)nid yw cwrs (neu ran ohono) i’w drin fel cwrs a ddarperir ar ran sefydliad rheoleiddiedig os y’i darperir o dan drefniadau gyda’r sefydliad hwnnw a wnaed cyn i’r adran hon ddod i rym.

Valid from 01/09/2015

Pwerau mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonolLL+C

18Addysg o ansawdd annigonol: cyffredinolLL+C

(1)Mae adrannau 19 ac 20 yn gymwys os, o ganlyniad i arfer ei swyddogaethau o dan adran 17, mae CCAUC wedi ei fodloni—

(a)bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig, neu

(b)bod ansawdd cwrs addysg penodol a ddarperir felly,

yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, mae ansawdd yr addysg neu gwrs addysg yn annigonol os nad yw’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y rhai hynny sy’n cael yr addysg neu sy’n ymgymryd â’r cwrs.

19Cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonolLL+C

(1)Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o—

(a)gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu

(b)atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.

(2)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

20Mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonolLL+C

(1)Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i gorff llywodraethu’r sefydliad gyda golwg ar—

(a)gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu

(b)atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.

(2)Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad.

(3)Rhaid i gorff llywodraeth ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).

Valid from 01/09/2015

Valid from 01/09/2015

Pwerau atodol at y diben o asesu ansawdd etcLL+C

22Asesu ansawdd etc: pwerau mynd i mewn ac arolyguLL+C

(1)At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20(2), caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol;

(b)edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

(2)Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—

(a)dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;

(b)dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a

(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.

(3)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);

(c)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.

(4)Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol—

(a)i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol y mae’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer mewn perthynas â’i fangre, a

(b)corff llywodraethu unrhyw sefydliad rheoleiddiedig y mae’r sefydliad hwnnw neu’r darparwr allanol hwnnw yn darparu ar ei ran yr addysg y mae arfer y swyddogaeth o dan adran 17 neu 20(2) yn ymwneud â hi.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—

(a)bod yr achos yn achos brys, neu

(b)y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.

(7)Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).

(8)O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—

(a)caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;

(b)ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.

(9)Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.

Valid from 01/09/2015

Canllawiau sy’n ymwneud ag ansawdd yr addysgLL+C

23Canllawiau ynghylch materion sy’n berthnasol i ansawddLL+C

(1)Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch unrhyw fater sy’n berthnasol yn ei farn ef i wella neu gynnal ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig.

(2)Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir neu a gymeradwyir o dan yr adran hon.

24Canllawiau ynghylch meini prawf ar gyfer asesu ansawddLL+C

(1)Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch—

(a)y meini prawf sydd i’w cymhwyso gan berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 wrth asesu ansawdd yr addysg;

(b)y materion y bydd CCAUC yn eu hystyried wrth benderfynu a yw ansawdd yr addysg, neu gwrs addysg, yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.

(2)Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

Valid from 01/09/2015

Valid from 25/05/2015

RHAN 4LL+CMATERION ARIANNOL SEFYDLIADAU RHEOLEIDDIEDIG

Cod rheolaeth ariannolLL+C

27Dyletswydd CCAUC i lunio a chyhoeddi CodLL+C

(1)Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Cod”).

(2)Caiff y Cod wneud darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn (ymhlith materion eraill)—

(a)yr amgylchiadau pan fo sefydliad rheoleiddiedig i ymrwymo i drafodiad o ddosbarth a bennir yn y Cod gyda chydsyniad CCAUC yn unig;

(b)trefniadau cyfrifyddu ac archwilio sefydliadau rheoleiddiedig;

(c)darparu gwybodaeth i CCAUC.

(3)Caiff darpariaeth yn y Cod fod ar ffurf gofyniad neu ganllawiau.

(4)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig—

(a)cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Cod;

(b)ystyried unrhyw ganllawiau sydd yn y Cod.

(5)Caiff CCAUC gyhoeddi’r Cod ym mha ffordd bynnag sy’n briodol yn ei farn ef.

(6)Rhaid i CCAUC—

(a)adolygu’r Cod yn gyson, a

(b)llunio a chyhoeddi Cod diwygiedig, os yw hynny’n briodol yn ei farn ef.

(7)Caiff y Cod wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ar gyfer sefydliadau gwahanol a disgrifiadau gwahanol o sefydliad).

(8)At ddibenion y Rhan hon, nid yw’r Brifysgol Agored i’w thrin fel sefydliad rheoleiddiedig.

(9)Yn adrannau 28, 29 a 30, ystyr “y Cod cyntaf” yw’r Cod cyntaf i’w gyhoeddi o dan yr adran hon.

Valid from 01/09/2015

29Y weithdrefn os na chymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, neu o God diwygiedig, a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i CCAUC ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o God diwygiedig, rhaid i CCAUC naill ai—

(a)cyflwyno drafft pellach o’r Cod diwygiedig i Weinidogion Cymru, neu

(b)rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru—

(i)yn datgan bod CCAUC wedi penderfynu peidio â pharhau â’r gwaith o ddiwygio’r Cod, a

(ii)yn nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(5)Caiff hysbysiad o dan is-adran (2) bennu cyfnod y mae rhaid, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, i CCAUC gydymffurfio ag is-adran (3) neu (4) (fel y bo’n briodol).

(6)Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.

(7)Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)sy’n esbonio sut y mae CCAUC, wrth lunio’r drafft, wedi ystyried y rhesymau a nodwyd yn yr hysbysiad a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2),

(b)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, ac

(c)sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (6) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(8)Mae is-adrannau (2) i (7) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

Valid from 01/09/2016

30Y weithdrefn os cymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29, rhaid iddynt osod y drafft a gymeradwywyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o fewn y cyfnod o 40 niwrnod—

(a)ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r drafft;

(b)os drafft o’r Cod cyntaf yw’r drafft, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru;

(c)os drafft o God diwygiedig yw’r drafft, caiff CCAUC gyflwyno drafft pellach o God diwygiedig i Weinidogion Cymru.

(3)Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, a

(b)sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(5)Y “cyfnod o 40 niwrnod” yw’r cyfnod o 40 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 40 niwrnod, nid yw unrhyw gyfnod pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fo ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.

(7)Os na chaiff penderfyniad ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn y cyfnod o 40 niwrnod fel a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i CCAUC gyhoeddi’r Cod yn nhelerau’r drafft a gymeradwywyd.

(8)Os cyflwynir drafft pellach i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon—

(a)mae is-adrannau (1) i (7) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r drafft fel y maent yn gymwys os ydynt yn cymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29;

(b)mae adran 29 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft fel y mae’n gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

Valid from 01/08/2017

Valid from 01/08/2017

Pwerau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r CodLL+C

32Methiant i gydymffurfio â’r Cod: cyffredinolLL+C

Mae adrannau 33 a 34 yn gymwys os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y Cod.

33Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r CodLL+C

(1)Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i’r corff llywodraethu sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio neu atal methiant o’r fath.

(2)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

34Mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r CodLL+C

(1)Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i’r corff llywodraethu gyda golwg ar wella trefniadaeth neu reolaeth materion ariannol y sefydliad.

(2)Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i gydymffurfedd y sefydliad â’r Cod.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).

Valid from 01/08/2017

Valid from 01/08/2017

Pwerau atodol at y diben o fonitro etcLL+C

36Rheolaeth ariannol: pwerau mynd i mewn ac arolyguLL+C

(1)At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 31 neu 34(2), caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig;

(b)edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

(2)Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—

(a)dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;

(b)dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a

(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.

(3)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);

(c)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.

(4)Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—

(a)bod yr achos yn achos brys, neu

(b)y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.

(7)Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).

(8)O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—

(a)caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;

(b)ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.

(9)Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.

Valid from 20/05/2015

RHAN 5LL+CCYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD: TYNNU CYMERADWYAETH YN ÔL ETC

Gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newyddLL+C

37Hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newyddLL+C

(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (3) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2)Mae hysbysiad o dan yr adran hon yn hysbysiad na fydd CCAUC yn cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd sy’n ymwneud â’r sefydliad cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Yr amodau yw bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu â chydymffurfio—

(a)ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys),

(b)â gofyniad cyffredinol yng nghynllun y sefydliad a gymeradwywyd,

(c)cyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),

(d)â chyfarwyddyd o dan adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol), neu

(e)â chyfarwyddyd o dan adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod).

(4)Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (3)(b) fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.

(5)Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu sefydliad, ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(6)Pan fo CCAUC wedi rhoi hysbysiad o dan yr adran hon—

(a)caiff dynnu’r hysbysiad yn ôl, a

(b)os gwna hynny, mae’r cyfyngiad yn is-adran (5) yn peidio â bod yn gymwys.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y cyfnod y caniateir ei bennu mewn hysbysiad o dan yr adran hon;

(b)y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon neu ei dynnu’n ôl;

(c)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â thynnu hysbysiad yn ôl.

(8)Os yw corff llywodraethu sefydliad nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13, mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r sefydliad hwnnw fel y mae’n gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig.

(9)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôlLL+C

38Dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth yn ôlLL+C

(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni nad yw sefydliad rheoleiddiedig bellach o fewn adran 2(3), rhaid iddo dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud penderfyniad at ddibenion yr adran hon;

(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan yr adran hon.

(3)Caiff rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth fel y’i disgrifir yn is-adran (2)(b) (ymhlith pethau eraill) ddiwygio neu gymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 41 i 44.

39Pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôlLL+C

(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod amod yn is-adran (2) wedi ei ddiwallu mewn cysylltiad â sefydliad rheoleiddiedig, caiff dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu’n fynych â chydymffurfio ag adran 10(1) (dyletswydd i sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys) neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,

(b)bod y corff llywodraethu wedi methu’n fynych â chydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun y sefydliad a gymeradwywyd neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),

(c)bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad yn ddifrifol o annigonol, neu

(d)bod methiant difrifol wedi bod gan gorff llywodraethu’r sefydliad i gydymffurfio â’r Cod.

(3)Nid yw corff llywodraethu i’w drin at ddibenion is-adran (2)(b) fel be bai wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol mewn cynllun a gymeradwywyd os yw CCAUC wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad o dan yr adran hon.

(5)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Valid from 20/05/2015

RHAN 6LL+CHYSBYSIADAU A CHYFARWYDDYDAU A RODDIR GAN CCAUC

Y weithdrefn rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodolLL+C

42Hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddioLL+C

(1)Os yw CCAUC yn bwriadu rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i CCAUC roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu.

(2)Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio—

(a)nodi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;

(b)datgan rhesymau CCAUC dros fwriadu ei roi;

(c)hysbysu’r corff llywodraethu y caiff gyflwyno sylwadau am yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;

(d)pennu, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau, y cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny.

(3)Wrth benderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff llywodraethu yn unol â’r hysbysiad rhybuddio.

(4)Os yw CCAUC, ar ôl ystyried y sylwadau hynny, yn penderfynu peidio â rhoi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid iddo roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i’r corff llywodraethu.

43Gwybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydauLL+C

Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid iddo ar yr un pryd roi i’r corff llywodraethu ddatganiad—

(a)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd,

(b)sy’n hysbysu’r corff llywodraethu y caiff wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd o dan adran 44, ac

(c)sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth ragnodedig arall.

44Adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydauLL+C

(1)Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff y corff llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir fel y’i disgrifir yn is-adran (4)(a)) wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.

(2)Mae adolygiad i’w gynnal gan berson, neu banel o bersonau, a benodir gan Weinidogion Cymru; a chaiff Gweinidogion Cymru dalu tâl a lwfansau i bersonau a benodir o dan yr is-adran hon.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan yr adran hon.

(4)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch y seiliau y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud arnynt;

(b)ynghylch y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny;

(c)ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan berson neu banel sy’n cynnal adolygiad;

(d)ynghylch y camau sydd i’w cymryd gan CCAUC yn dilyn adolygiad;

(e)i hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo beidio â chael ei drin fel pe bai wedi ei roi hyd nes bod unrhyw gamau a bennir yn y rheoliadau wedi eu cymryd, neu hyd nes bod unrhyw gyfnod a bennir yn y rheoliadau wedi dod i ben.

Valid from 20/05/2015

RHAN 7LL+CDARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC

Valid from 25/05/2015

Arfer swyddogaethau gan CCAUCLL+C

47Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu sefydliadauLL+C

(1)Nid oes dim byd yn y Ddeddf hon yn rhoi pŵer i CCAUC i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws—

(a)ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu gyfyngiad cyfreithiol sy’n gymwys i’r corff llywodraethu yn rhinwedd bod y sefydliad yn elusen, neu

(b)â dogfennau llywodraethu’r sefydliad.

(2)At ddibenion is-adran (1)(b), dogfennau llywodraethu sefydliad yw—

(a)yn achos sefydliad a sefydlwyd drwy siarter Frenhinol—

(i)siarter y sefydliad, a

(ii)unrhyw offeryn sy’n ymwneud â rhedeg y sefydliad, y mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor er mwyn gwneud neu ddiwygio’r offeryn hwnnw;

(b)yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth ac erthyglau llywodraethu’r sefydliad;

(c)yn achos sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach, offeryn llywodraethu’r gorfforaeth a’i herthyglau llywodraethu;

(d)yn achos sefydliad a ddynodwyd o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 neu adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, offeryn llywodraethu’r sefydliad a’i erthyglau llywodraethu;

(e)yn achos sefydliad nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d) sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm y cwmni a’i erthyglau cymdeithasu.

48Dyletswydd i ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaiddLL+C

Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd gan gynnwys, yn benodol, rhyddid sefydliadau—

(a)i benderfynu ar gynnwys cyrsiau penodol a’r dull o’u haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,

(b)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol, ac

(c)i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol.

49Dyletswydd i ystyried canllawiau Gweinidogion CymruLL+C

Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Valid from 01/09/2015

Adroddiadau sydd i’w llunio gan CCAUCLL+C

51Adroddiadau arbennigLL+C

(1)Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, adrodd i Weinidogion Cymru ar unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)cydymffurfedd ag adran 10(1) gan sefydliadau o fewn adran 10(2) yn gyffredinol neu gan sefydliad penodol;

(b)cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu â gofynion cyffredinol cynllun penodol a gymeradwywyd;

(c)effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu effeithiolrwydd cynllun penodol a gymeradwywyd, wrth hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;

(d)unrhyw faterion eraill a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch;

(e)ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig penodol;

(f)cydymffurfedd gan sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu gan sefydliad rheoleiddiedig penodol, â gofynion y Cod.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu—

(a)ffurf a chynnwys adroddiad a wneir at ddibenion yr adran hon;

(b)pryd y mae’r adroddiad i’w wneud.

Gwybodaeth arall etc sydd i’w rhoi gan CCAUCLL+C

52Datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrrydLL+C

(1)Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd.

(2)O ran CCAUC—

(a)rhaid iddo adolygu’r datganiad yn gyson;

(b)caiff ei ddiwygio.

(3)Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)llunio’r datganiad (gan gynnwys o ran ei ffurf a’i gynnwys);

(b)ei gyhoeddi;

(c)yr ymgynghoriad sydd i’w gynnal o dan is-adran (3).

(5)Swyddogaethau ymyrryd CCAUC yw ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a ganlyn⁠—

(a)adran 11 (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu);

(b)adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd);

(c)adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);

(d)adran 20(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol);

(e)adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);

(f)adran 34(1) a (2) (mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod);

(g)adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);

(h)adrannau 38 a 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad presennol yn ôl).

RHAN 8LL+CCYFFREDINOL

55RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(3)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall) reoliadau o fewn is-adran (4) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(4)Y rheoliadau o fewn yr is-adran hon yw—

(a)y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 2(4);

(b)rheoliadau o dan adran 3(4);

(c)rheoliadau o dan adran 4(3);

(d)y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 5(3);

(e)rheoliadau o dan adran 6(1);

(f)rheoliadau o dan adran 7(3);

(g)rheoliadau o dan adran 13;

(h)rheoliadau o dan adran 38(2) sy’n diwygio darpariaeth yn y Ddeddf hon;

(i)rheoliadau o dan adran 58 sy’n diwygio neu’n diddymu darpariaeth mewn—

(i)Deddf Seneddol, neu

(ii)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

56Cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion CymruLL+C

O ran cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

57DehongliLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;

  • mae i “annigonol” (“inadequate”), mewn perthynas ag ansawdd addysg neu gwrs, yr ystyr a roddir yn adran 18;

  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw cyfnod o 12 mis;

  • mae i “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”), mewn perthynas â sefydliad y mae cynllun ffioedd a mynediad yn ymwneud ag ef, yr ystyr a roddir yn adran 5;

  • ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

  • mae “corff llywodraethu” (“governing body”) i’w ddehongli fel a ganlyn—

    (a)

    mewn perthynas â darparwr hyfforddiant na fyddai, oni bai am yr adran hon, yn cael ei ystyried yn sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

    (b)

    mewn perthynas â darparwr a ddynodir o dan adran 3, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

    (c)

    mewn perthynas ag unrhyw sefydliad arall, mae iddo’r ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 90(2) o’r Ddeddf honno;

    (d)

    mewn perthynas â darparwr allanol nad yw’n sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

  • ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs a ragnodir o dan adran 5;

  • mae i “cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu” (“compliance and reimbursement direction”) yr ystyr a roddir yn adran 11;

  • ystyr “cyfle cyfartal” (“equality of opportunity”) yw cyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch;

  • mae i “cynllun a gymeradwywyd” (“approved plan”) yr ystyr a roddir yn adran 7;

  • mae i “cynllun ffioedd a mynediad” (“fee and access plan”) yr ystyr a roddir yn adran 2;

  • mae i “darparwr allanol” (“external provider”) yr ystyr a roddir yn adran 17;

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

    (a)

    Deddf Seneddol;

    (b)

    Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (c)

    is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol neu o dan Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru);

  • ystyr “ffioedd” (“fees”) yw ffioedd ar gyfer neu fel arall mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs, gan gynnwys ffioedd derbyn, cofrestru, dysgu a graddio, a ffioedd sy’n daladwy i sefydliad am ddyfarnu neu achredu unrhyw ran o’r cwrs, ond ac eithrio—

    (a)

    ffioedd sy’n daladwy am fwyd neu lety;

    (b)

    ffioedd sy’n daladwy am wibdeithiau mae (gan gynnwys unrhyw elfen ddysgu o’r ffioedd hynny);

    (c)

    ffioedd sy’n daladwy am fod yn bresennol mewn unrhyw seremoni raddio neu seremoni arall;

    (d)

    unrhyw ffioedd eraill a ragnodir at ddibenion yr adran hon;

  • mae i “ffioedd cwrs rheoleiddiedig“ (“regulated course fees”) yr ystyr a roddir yn adran 10;

  • mae i “ffioedd uwchlaw’r terfyn” (“excess fees”) yr ystyr a roddir yn adran 11;

  • mae “gofynion cyffredinol” (“general requirements”) mewn perthynas â chynllun a gymeradwywyd, i’w ddarllen yn unol ag adran 6;

  • ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

  • mae i “person cymhwysol” (“qualifying person”) yr ystyr a roddir yn adran 5;

  • ystyr “rhagnodedig” ac ”a ragnodir” (“prescribed”) yw rhagnodedig drwy reoliadau;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • mae “sefydliad” (“institution”) yn cynnwys unrhyw ddarparwr hyfforddiant (pa un a fyddai’r darparwr hyfforddiant fel arall yn cael ei ystyried yn sefydliad ai peidio);

  • mae i “sefydliad rheoleiddiedig” (“regulated institution”) yr ystyr a roddir yn adran 7;

  • mae i “terfyn ffioedd” (“fee limit”) yr ystyr a roddir yn adran 5;

  • mae i “terfyn ffioedd cymwys” (“applicable fee limit”) yr ystyr a roddir yn adran 10.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “darparwr hyfforddiant” yw person sy’n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu’r ysgol (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the school workforce” gan adran 100 o Ddeddf Addysg 2005).

(3)At ddibenion y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at sefydliad yng Nghymru—

(a)yn gyfeiriadau at sefydliad y mae ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, a

(b)yn cynnwys y Brifysgol Agored.

58Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etcLL+C

(1)Am fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, gweler Rhan 1 o’r Atodlen.

(2)Am ddarpariaethau trosiannol, gweler Rhan 2 o’r Atodlen.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol neu ganlyniadol, neu

(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed,

sy’n briodol yn eu barn hwy o ganlyniad i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu er mwyn rhoi effaith lawn i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

59CychwynLL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adran 55;

(c)adran 56;

(d)adran 57;

(e)adran 58(3) a (4);

(f)yr adran hon;

(g)adran 60.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol; a

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

60Enw byr etcLL+C

(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

(2)Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.