Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/09/2015
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/05/2015. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) croes bennawd yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, Croes Bennawd: Y weithdrefn rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Valid from 01/09/2015
(1)Mae adrannau 42 i 44 yn gymwys i—
(a)hysbysiad o dan adran 7(1)(b) (gwrthod cynllun ffioedd a mynediad arfaethedig),
(b)cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu,
(c)cyfarwyddyd o dan adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd),
(d)cyfarwyddyd o dan adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol),
(e)cyfarwyddyd o dan adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod),
(f)hysbysiad o dan adran 37 (gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd), ac
(g)hysbysiad o dan adran 39 (tynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl).
(2)Ond nid yw’r adrannau hynny yn gymwys i gyfarwyddyd nad yw’n darparu ond ar gyfer dirymu cyfarwyddyd cynharach (gweler adran 46).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
(1)Os yw CCAUC yn bwriadu rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i CCAUC roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu.
(2)Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio—
(a)nodi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;
(b)datgan rhesymau CCAUC dros fwriadu ei roi;
(c)hysbysu’r corff llywodraethu y caiff gyflwyno sylwadau am yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig;
(d)pennu, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau, y cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny.
(3)Wrth benderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid i CCAUC ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff llywodraethu yn unol â’r hysbysiad rhybuddio.
(4)Os yw CCAUC, ar ôl ystyried y sylwadau hynny, yn penderfynu peidio â rhoi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid iddo roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i’r corff llywodraethu.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I3A. 42(2)(d) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(o)
Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid iddo ar yr un pryd roi i’r corff llywodraethu ddatganiad—
(a)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd,
(b)sy’n hysbysu’r corff llywodraethu y caiff wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd o dan adran 44, ac
(c)sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth ragnodedig arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I5A. 43(c) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(p)
(1)Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff y corff llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir fel y’i disgrifir yn is-adran (4)(a)) wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.
(2)Mae adolygiad i’w gynnal gan berson, neu banel o bersonau, a benodir gan Weinidogion Cymru; a chaiff Gweinidogion Cymru dalu tâl a lwfansau i bersonau a benodir o dan yr is-adran hon.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan yr adran hon.
(4)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth—
(a)ynghylch y seiliau y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud arnynt;
(b)ynghylch y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny;
(c)ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan berson neu banel sy’n cynnal adolygiad;
(d)ynghylch y camau sydd i’w cymryd gan CCAUC yn dilyn adolygiad;
(e)i hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo beidio â chael ei drin fel pe bai wedi ei roi hyd nes bod unrhyw gamau a bennir yn y rheoliadau wedi eu cymryd, neu hyd nes bod unrhyw gyfnod a bennir yn y rheoliadau wedi dod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I7A. 44(3)(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(q)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: