xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8CYFFREDINOL

55Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(3)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys (ar ei ben ei hun neu gyda darpariaeth arall) reoliadau o fewn is-adran (4) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(4)Y rheoliadau o fewn yr is-adran hon yw—

(a)y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 2(4);

(b)rheoliadau o dan adran 3(4);

(c)rheoliadau o dan adran 4(3);

(d)y rheoliadau cyntaf sydd i’w gwneud o dan adran 5(3);

(e)rheoliadau o dan adran 6(1);

(f)rheoliadau o dan adran 7(3);

(g)rheoliadau o dan adran 13;

(h)rheoliadau o dan adran 38(2) sy’n diwygio darpariaeth yn y Ddeddf hon;

(i)rheoliadau o dan adran 58 sy’n diwygio neu’n diddymu darpariaeth mewn—

(i)Deddf Seneddol, neu

(ii)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

56Cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru

O ran cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

57Dehongli

(1)Yn y Ddeddf hon—

(2)Yn is-adran (1), ystyr “darparwr hyfforddiant” yw person sy’n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu’r ysgol (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the school workforce” gan adran 100 o Ddeddf Addysg 2005).

(3)At ddibenion y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at sefydliad yng Nghymru—

(a)yn gyfeiriadau at sefydliad y mae ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, a

(b)yn cynnwys y Brifysgol Agored.

58Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc

(1)Am fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, gweler Rhan 1 o’r Atodlen.

(2)Am ddarpariaethau trosiannol, gweler Rhan 2 o’r Atodlen.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol neu ganlyniadol, neu

(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed,

sy’n briodol yn eu barn hwy o ganlyniad i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu er mwyn rhoi effaith lawn i ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

59Cychwyn

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adran 55;

(c)adran 56;

(d)adran 57;

(e)adran 58(3) a (4);

(f)yr adran hon;

(g)adran 60.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol; a

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

60Enw byr etc

(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

(2)Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.