xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
27Mae paragraff 28 yn gymwys i’r graddau y mae cynllun o dan Ddeddf 2004 yn pennu terfyn nad yw’r ffioedd sy’n daladwy gan berson sy’n berson cymhwysol i fynd uwch ei law, neu’n darparu ar gyfer penderfynu ar y terfyn hwnnw—
(a)mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs sy’n gwrs cymhwysol, a
(b)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs ac sy’n dechrau yn ystod y cyfnod trosiannol (“blwyddyn academaidd drosiannol”).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2Atod. para. 27 mewn grym ar 1.8.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 4(b)(i)