ATODLENDARPARIAETH GANLYNIADOL A THROSIANNOL ETC

(a gyflwynwyd gan adran 58)

RHAN 1MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992

1

Mae Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

1

Mae adran 70 (asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan sefydliadau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (1), yn lle “Each council” rhodder “The Higher Education Funding Council for England”.

3

Yn y teitl, yn lle “Assessment” rhodder “England: assessment”.

3

Yn adran 83 (astudiaethau effeithlonrwydd), yn ail golofn y tabl yn is-adran (1B), ar ôl “An institution within the higher education sector” mewnosoder—

A regulated institution for the purposes of the Higher Education (Wales) Act 2015 (including a provider designated under section 3 of that Act which is treated as being a regulated institution for the purposes of that Act).

4

1

Mae adran 91 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (5), ar ôl paragraph (a) mewnosoder—

aa

universities that are regulated institutions,

3

Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

5A

For the purposes of subsection (5)(aa), a regulated institution is an institution to which an approved plan, within the meaning given in section 7 of the Higher Education (Wales) Act 2015, relates.

5Deddf Addysg 1996

Yn adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (ysgolion: cyffredinol), yn is-adran (4), ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder

, or

d

a university to which an approved plan, within the meaning given in section 7 of the Higher Education (Wales) Act 2015, relates

6Deddf Addysg 2002

Yn adran 140 o Ddeddf Addysg 2002 (addysg bellach: cyffredinol), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

4

For the purposes of section 138(3), a university to which an approved plan relates is to be treated (in any case where it would not be so treated but for this subsection) as being a higher education institution.

5

“Approved plan”, in subsection (4), has the meaning given in section 7 of the Higher Education (Wales) Act 2015.

Deddf Addysg Uwch 2004

7

Mae Deddf Addysg Uwch 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

8

Yn adran 22 (ystyr “cynllun” etc), ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “or a” i’r diwedd rhodder “is a reference to a plan approved under section 34.”

9

Hepgorer adrannau 27 ac 28.

10

1

Mae adran 29 (darpariaeth atodol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (1), hepgorer “or 28”.

3

Yn is-adran (2), hepgorer “or 28(6)”.

4

Yn is-adran (3)—

a

yn y geiriau sy’n rhagflaenu paragraff (a)—

i

yn lle “, the Education Act 2002 or the 2005 Act” rhodder “or the Education Act 2002”;

ii

yn lle’r geiriau o “, the Assembly” i “for Wales” rhodder “or the Higher Education Funding Council for England”;

b

hepgorer paragraff (b);

c

ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “or 28” i “Councils” rhodder “imposed by the Higher Education Funding Council for England”.

5

Yn y teitl, yn lle “28” rhodder “26”.

11

1

Mae adran 30 (ystyr “yr awdurdod perthnasol”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (1), hepgorer paragraff (b) (a’r “and” sy’n ei ragflaenu).

3

Hepgorer is-adrannau (2) a (3).

12

Yn adran 32 (dyletswyddau cyffredinol awdurdod perthnasol), hepgorer is-adran (4).

13

1

Mae adran 33 (cynnwys cynlluniau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (2), yn lle “In relation to England, a” rhodder “A”.

3

Hepgorer is-adran (3).

4

Yn is-adran (4), hepgorer “or (3)”.

5

Yn is-adran (5)—

a

yn y geiriau sy’n rhagflaenu paragraff (a), hepgorer “or (3)”;

b

ym mharagraff (d), hepgorer y geiriau o “and” i ddiwedd y paragraff.

6

Yn is-adran (6), hepgorer “or (3)”.

7

Yn is-adran (7)—

a

yn lle’r diffiniad o “the higher amount” rhodder—

  • “the higher amount” means the amount from time to time prescribed as the higher amount under section 24(6);

b

yn lle’r diffiniad o “qualifying course” a “qualifying person” rhodder—

  • “qualifying course” and “qualifying person” have the same meaning as in section 24;

c

yn lle’r diffiniad o “regulations” rhodder—

  • “regulations” means regulations made by the Secretary of State.

14

1

Mae adran 34 (cymeradwyo cynlluniau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (1)(a)—

a

ar ôl “grants” mewnosoder “from the Higher Education Funding Council for England”;

b

hepgorer “or section 86 of the 2005 Act”.

3

Yn is-adran (7), yn lle’r geiriau o “made” i ddiwedd yr is-adran rhodder “made by the Secretary of State”.

15

Yn adran 35 (cyfnod para cynlluniau), yn is-adran (2) hepgorer paragraff (b) (a’r “or” sy’n ei ragflaenu).

16

1

Mae adran 36 (amrywio cynlluniau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (1), hepgorer “or a Welsh approved plan”.

3

Yn is-adran (2), hepgorer paragraff (b) (a’r “or” sy’n ei ragflaenu).

17

Yn adran 37 (gorfodi cynlluniau), yn y teitl hepgorer “: England”.

18

Hepgorer adran 38.

19

Yn adran 39 (adolygu penderfyniadau)—

a

yn y geiriau sy’n rhagflaenu paragraff (a), yn lle “, 37(3)(b) or 38(3)(b)” rhodder “or 37(3)(b)”;

b

ym mharagraff (b), hepgorer is-baragraff (ii) (a’r “or” sy’n ei ragflaenu);

c

ym mharagraff (c), hepgorer “or the Assembly”.

20

Hepgorer adran 40A (darparu adroddiadau etc gan awdurdod perthnasol o ran Cymru).

21

Yn adran 41 (dehongli Rhan 3), yn is-adran (1)—

a

yn y diffiniad o “fees”, ym mharagraff (e), hepgorer is-baragraff (ii) (a’r “or” sy’n ei ragflaenu);

b

hepgorer y diffiniad o “Welsh approved plan”.

22Deddf Addysg 2005

Yn Atodlen 14 i Ddeddf Addysg 2005 (diwygiadau yn ymwneud â hyfforddi gweithlu’r ysgol), hepgorer paragraffau 27 i 29.

23Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Yn Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (darpariaethau trosiannol), ym mharagraff 35—

a

yn is-baragraff (3), yn Nhabl 1 hepgorer y cofnod yn ymwneud ag adran 33(3)(a)(ii) o Ddeddf Addysg Uwch 2004;

b

yn is-baragraff (4), yn Nhabl 2 hepgorer y cofnodion yn ymwneud ag adrannau 30(1)(b) a 38(2) o’r Ddeddf honno.

Deddf Addysg 2011

24

Mae Deddf Addysg 2011 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

25

1

Mae adran 77 (terfyn ar ffioedd myfyrwyr: cyrsiau rhan-amser) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adran (2), ar y diwedd mewnosoder “by regulations made by the Secretary of State”.

3

Hepgorer is-adran (3).

26

1

Mae Atodlen 5 (diddymu’r Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu: diwygiadau canlyniadol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer paragraffau 21 a 22.

3

Ym mharagraff 23, hepgorer paragraffau (a) a (b).

4

Hepgorer paragraff 27.

RHAN 2DARPARIAETH DROSIANNOL

Cynlluniau a gymeradwywyd o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004

27

Mae paragraff 28 yn gymwys i’r graddau y mae cynllun o dan Ddeddf 2004 yn pennu terfyn nad yw’r ffioedd sy’n daladwy gan berson sy’n berson cymhwysol i fynd uwch ei law, neu’n darparu ar gyfer penderfynu ar y terfyn hwnnw—

a

mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs sy’n gwrs cymhwysol, a

b

mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs ac sy’n dechrau yn ystod y cyfnod trosiannol (“blwyddyn academaidd drosiannol”).

28

Mae’r cynllun i’w drin yn ystod y cyfnod trosiannol fel pe bai’n gynllun ffioedd a mynediad sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 7, at ddibenion—

a

adran 4(4)(b);

b

adrannau 10 i 12, 14, 15(1)(a) ac 16;

c

adrannau 17 i 23;

d

adran 24(2)(a);

e

adran 28(2);

f

adrannau 51(1)(e), 52(3) a 54(1);

g

unrhyw ddeddfiad arall, pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a bennir mewn rheoliadau (“deddfiad cymwysedig”).

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan baragraff 30.

29

1

At y diben hwn—

a

mae’r cynllun i’w drin fel pe bai wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 ar y diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym;

b

mae’r cyfnod, sef y cyfnod trosiannol (gweler is-baragraff (2)), i’w drin fel y cyfnod a bennir yn y cynllun o dan adran 4;

c

mae’r terfyn a ddarperir gan y cynllun ar gyfer cwrs a blwyddyn academaidd drosiannol i’w drin fel y terfyn ffioedd cymwys ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn academaidd o dan sylw;

d

mae’r sefydliad y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef i’w drin fel pe bai’n sefydliad rheoleiddiedig.

2

Y cyfnod trosiannol yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2017.

3

Mae “cynllun o dan Ddeddf 2004” yn gynllun a gymeradwywyd o ran Cymru, o dan adran 34 o Ddeddf Addysg Uwch 2004, cyn i’r paragraff hwn ddod i rym.

30

1

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cymhwyso darpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 28(a) i (f), neu ddeddfiad cymwysedig, i gynllun o dan Ddeddf 2004 yn ystod y cyfnod trosiannol.

2

Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) ddarparu’r canlynol o ran darpariaeth neu ddeddfiad cymwysedig—

a

nid yw i fod yn gymwys i gynllun o dan Ddeddf 2004 yn ystod y cyfnod trosiannol, neu

b

mae i fod yn gymwys gydag addasiadau.

31Aelodau’r Pwyllgor Asesu Ansawdd

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd, yn union cyn i adran 25 ddod i rym, yn aelod o’r Pwyllgor Asesu Ansawdd a sefydlwyd gan CCAUC o dan adran 70(1)(b) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“yr hen bwyllgor”).

2

Pan ddaw adran 25 i rym, daw’r person yn aelod o’r pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan yr adran honno (“y pwyllgor newydd”).

3

Mae aelodaeth y person o’r pwyllgor newydd—

a

ar yr un telerau â phenodiad y person i’r hen bwyllgor, a

b

am gyfnod sy’n gyfatebol i gyfnod y penodiad hwnnw sy’n parhau i fod pan ddaw adran 25 i rym.