(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29, rhaid iddynt osod y drafft a gymeradwywyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o fewn y cyfnod o 40 niwrnod—
(a)ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r drafft;
(b)os drafft o’r Cod cyntaf yw’r drafft, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru;
(c)os drafft o God diwygiedig yw’r drafft, caiff CCAUC gyflwyno drafft pellach o God diwygiedig i Weinidogion Cymru.
(3)Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.
(4)Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—
(a)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, a
(b)sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.
(5)Y “cyfnod o 40 niwrnod” yw’r cyfnod o 40 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 40 niwrnod, nid yw unrhyw gyfnod pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fo ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.
(7)Os na chaiff penderfyniad ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn y cyfnod o 40 niwrnod fel a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i CCAUC gyhoeddi’r Cod yn nhelerau’r drafft a gymeradwywyd.
(8)Os cyflwynir drafft pellach i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon—
(a)mae is-adrannau (1) i (7) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r drafft fel y maent yn gymwys os ydynt yn cymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29;
(b)mae adran 29 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft fel y mae’n gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.