xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Os yw CCAUC wedi ei fodloni nad yw sefydliad rheoleiddiedig bellach o fewn adran 2(3), rhaid iddo dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i gorff llywodraethu’r sefydliad.
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud penderfyniad at ddibenion yr adran hon;
(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan yr adran hon.
(3)Caiff rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth fel y’i disgrifir yn is-adran (2)(b) (ymhlith pethau eraill) ddiwygio neu gymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 41 i 44.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2A. 38(1) mewn grym ar 1.8.2016 gan O.S. 2016/110, ergl. 3(a)
I3A. 38(2) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(l)
I4A. 38(3) mewn grym ar 3.2.2016 gan O.S. 2016/110, ergl. 2(a)