(1)Os yw CCAUC yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff y corff llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir fel y’i disgrifir yn is-adran (4)(a)) wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.
(2)Mae adolygiad i’w gynnal gan berson, neu banel o bersonau, a benodir gan Weinidogion Cymru; a chaiff Gweinidogion Cymru dalu tâl a lwfansau i bersonau a benodir o dan yr is-adran hon.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan yr adran hon.
(4)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth—
(a)ynghylch y seiliau y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud arnynt;
(b)ynghylch y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo a’r ffordd y caniateir gwneud hynny;
(c)ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan berson neu banel sy’n cynnal adolygiad;
(d)ynghylch y camau sydd i’w cymryd gan CCAUC yn dilyn adolygiad;
(e)i hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo beidio â chael ei drin fel pe bai wedi ei roi hyd nes bod unrhyw gamau a bennir yn y rheoliadau wedi eu cymryd, neu hyd nes bod unrhyw gyfnod a bennir yn y rheoliadau wedi dod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2A. 44(1)(2) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)
I3A. 44(3)(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(q)
I4A. 44(3)(4) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(k)