RHAN 7LL+CDARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC

Adroddiadau sydd i’w llunio gan CCAUCLL+C

50Adroddiadau blynyddolLL+C

(1)Cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i CCAUC gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar sut, yn ystod y cyfnod, y mae CCAUC wedi arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon.

(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl cael adroddiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Rhaid i’r adroddiad gydymffurfio ag unrhyw ofynion y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy gyfarwyddyd i CCAUC.

(4)Caiff y gofynion hynny gynnwys gofynion o ran ffurf a chynnwys yr adroddiad.

F1(5). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1(7). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1Deddf wedi ei diddymu (1.8.2024 ar gyfer diddymu aau. 25, 49, 50(5)-(7), 51, 53, Atod. Pt. 1 parau. 2, 5, 7-26, Atod. Pt. 2) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 31 (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 3(c)(iv) (ynghyd ag erglau. 28-42)

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 50 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2