(1)Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(2)Caiff CCAUC roi i Weinidogion Cymru wybodaeth a chyngor arall sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2A. 53 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(p)