Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Valid from 20/05/2015

9Amrywio cynllun a gymeradwywydLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n caniatáu i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig amrywio cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(2)Rhaid i’r rheoliadau ddarparu mai dim ond os caiff amrywiad ei gymeradwyo gan CCAUC y mae i gymryd effaith.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth i amrywiad a phenderfynu ar y ceisiadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)