Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 05/05/2022
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud pethau er mwyn ymgyrraedd at lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru mewn modd sy’n gydnaws â’r egwyddor datblygu cynaliadwy; i’w gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar weithredoedd o’r fath; i sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i gynghori a chynorthwyo cyrff cyhoeddus wrth iddynt wneud pethau yn unol â’r Ddeddf hon; i sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd awdurdodau lleol; i wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r byrddau hynny gynllunio a gweithredu i ymgyrraedd at lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd; ac at ddibenion cysylltiedig.
[29 Ebrill 2015]
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
(1)Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf.
(2)Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon—
(a)yn egluro ystyr “datblygu cynaliadwy” ac yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy (adrannau 2 a );
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff bennu amcanion llesiant sydd i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant a chymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny (adran );
(c)yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff wneud y pethau hynny yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (adran );
(d)yn egluro beth yw’r nodau llesiant a beth yw ystyr gwneud pethau yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (adrannau 4 a 5);
(e)yn ei gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi dangosyddion sy’n mesur y cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant (adran 10) ac adroddiadau ar dueddiadau tebygol y dyfodol yn llesiant Cymru (adran 11);
(f)yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff yn adrodd yn flynyddol ar y cynnydd tuag at gyflawni yr amcanion llesiant (adrannau 12 a 13 ac Atodlen 1);
(g)yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymchwiliadau ynghylch i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn gosod amcanion ac yn cymryd camau yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (adran 15).
(3)Mae Rhan 3 o’r Ddeddf hon—
(a)yn sefydlu swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (adran 17 ac Atodlen 2);
(b)yn darparu y bydd y Comisiynydd yn hyrwyddo anghenion cenedlaethau’r dyfodol drwy fonitro i ba raddau y mae y cyrff cyhoeddus yn gosod eu hamcanion llesiant, ac yn ceisio eu cyflawni, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac yn adrodd ar hynny (adran 18);
(c)yn darparu y bydd y Comisiynydd yn cynnal adolygiadau o gyrff cyhoeddus (adran 20);
(d)yn sefydlu panel o gynghorwyr i’r Comisiynydd (adrannau 26 i 28).
(4)Mae Rhan 4 o’r Ddeddf hon—
(a)yn sefydlu bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru ac yn pennu pwy arall y caiff bwrdd gydweithio ag ef (Pennod 1);
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau wella llesiant eu hardaloedd drwy gyfrannu at y nodau llesiant ac maent i wneud hynny drwy asesu llesiant yn eu hardaloedd, gosod amcanion lleol sy’n cael eu cynllunio i sicrhau bod y bwrdd yn cyfrannu i’r eithaf (o fewn ei ardal) at gyrraedd y nodau llesiant a chymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny (Pennod 2, adran 36);
(c)yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau wneud y pethau hynny yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (Pennod 2, adran 36);
(d)yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau gyhoeddi cynlluniau llesiant lleol sy’n nodi eu hamcanion lleol a sut y maent yn bwriadu cymryd camau i’w cyflawni (Pennod 2, adran 39);
(e)yn gwneud darpariaeth benodol ynghylch sut y mae cynlluniau llesiant lleol yn gymwys i gynghorau cymuned a sut, drwy hynny, y gall cyngor cymuned gyfrannu at weithgarwch y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn ei ardal (Pennod 2, adran 40);
(f)yn gwneud darpariaeth i fyrddau uno neu gydlafurio fel arall [F1, a daduno] (Pennod 3).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 1(4)(f) wedi eu mewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 1 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(a)
Yn y Ddeddf hon, ystyr “datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (gweler adran 5), gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant (gweler adran 4).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I4A. 2 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i bob corff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy.
(2)Rhaid i weithredoedd corff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy gynnwys—
(a)gosod a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant, a
(b)cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny.
(3)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan osod amcanion mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.
(4)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â rhan o Gymru yn unig osod amcanion mewn perthynas â’r rhan honno neu unrhyw ran ohoni.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I6A. 3 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
Mae’r nodau llesiant wedi eu nodi a’u disgrifio yn Nhabl 1—
Nod | Disgrifiad o’r nod |
---|---|
Cymru lewyrchus. | Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas. |
Cymru gydnerth. | Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd). |
Cymru iachach. | Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol. |
Cymru sy’n fwy cyfartal. | Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd). |
Cymru o gymunedau cydlynus. | Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da. |
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. | Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden. |
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. | Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang. |
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I8A. 4 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Yn y Ddeddf hon, mae unrhyw gyfeiriad at y ffaith bod corff cyhoeddus yn gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
(2)Er mwyn gweithredu yn y modd hwn, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried y pethau canlynol—
(a)pwysigrwydd cydbwyso anghenion y tymor byr gyda’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor, yn enwedig pan allai pethau a wneir i ddiwallu anghenion tymor byr gael effaith niweidiol yn yr hirdymor;
(b)yr angen i gymryd ymagwedd integredig, drwy ystyried—
(i)ym mha ffordd y gallai amcanion llesiant y corff effeithio ar bob un o’r nodau llesiant;
(ii)effaith amcanion llesiant y corff ar ei gilydd neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill, yn arbennig pan all camau a gymerir gan y corff gyfrannu at gyflawni un amcan ond y gall fod yn niweidiol i gyflawni un arall;
(c)pwysigrwydd cynnwys personau eraill sydd â diddordeb mewn cyrraedd y nodau llesiant a sicrhau bod y personau hynny’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth—
(i)Cymru (pan fo’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan), neu
(ii)y rhan o Gymru y mae’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi;
(d)ym mha ffordd y gallai cydlafurio ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r corff yn gweithio ar y cyd) gynorthwyo’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant, neu gynorthwyo corff arall i gyflawni ei amcanion;
(e)ym mha ffordd y gallai defnyddio adnoddau i atal problemau rhag digwydd neu waethygu gyfrannu at gyflawni amcanion llesiant y corff neu amcanion corff arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I10A. 5 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)At ddibenion y Rhan hon a Rhan 3 o’r Ddeddf hon, mae pob un o’r personau canlynol yn “gorff cyhoeddus”—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)awdurdod lleol;
[F2(ba)cyd-bwyllgor corfforedig;]
(c)Bwrdd Iechyd Lleol;
(d)yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—
(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(ii)Felindre;
(e)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;
(g)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
(h)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
(i)Cyngor Celfyddydau Cymru;
(j)Cyngor Chwaraeon Cymru;
(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
(l)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
(2)Mae adran 52 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio ystyr “corff cyhoeddus”.
(3)Mae Pennod 1 o Ran 4 yn darparu bod personau sydd wedi eu rhestru fel cyrff cyhoeddus yn is-adran (1) (yn ogystal â phersonau penodol eraill sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) naill ai yn aelodau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir o dan y Rhan honno, neu’n gyfranogwyr gwadd neu’n bartneriaid eraill i fyrddau.
Diwygiadau Testunol
F2A. 6(1)(ba) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021 (O.S. 2021/1360), rhlau. 1(2), 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I12A. 6 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(b)
(1)Wrth gyhoeddi’r amcanion llesiant (gan gynnwys amcanion llesiant a adolygwyd o dan adran 8 neu 9) rhaid i gorff cyhoeddus hefyd gyhoeddi datganiad sy’n—
(a)egluro pam y mae’r corff yn ystyried y bydd cyflawni’r amcanion yn cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;
(b)egluro pam y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried ei fod wedi gosod amcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan gynnwys sut y mae’r corff yn bwriadu cynnwys personau eraill sydd â diddordeb mewn cyrraedd y nodau llesiant a sicrhau bod y personau hynny’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth—
(i)Cymru (pan fo’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan), neu
(ii)y rhan o Gymru y mae’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi;
(c)nodi’r camau y mae’r corff cyhoeddus yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny yn unol â’r egwyddor (gan gynnwys sut y mae’n bwriadu ei lywodraethu ei hun, sut y bydd yn parhau i adolygu’r camau a sut y mae’n bwriadu sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n flynyddol at ddiben cymryd camau o’r fath);
(d)pennu’r cyfnodau erbyn pryd y mae’r corff yn disgwyl y bydd yn cyflawni’r amcanion;
(e)darparu unrhyw wybodaeth arall y bydd y corff yn ei hystyried yn briodol ynghylch cymryd y camau a chyflawni’r amcanion.
(2)Caniateir cynnwys amcanion llesiant corff cyhoeddus sydd hefyd yn aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus yng nghynllun llesiant lleol y bwrdd hwnnw (gweler Penodau 1 a 2 o Ran 4).
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I14A. 7 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i amcanion llesiant Gweinidogion Cymru gael eu gosod a’u cyhoeddi—
(a)heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl y dyddiad y cynhelir yr etholiad cyffredinol cyntaf ar ôl cychwyn yr adran hon, a
(b)heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredinol dilynol.
(2)Rhaid i amcanion llesiant Gweinidogion Cymru gael eu gosod ar gyfer y cyfnod—
(a)sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir at y diben hwnnw yn y datganiad a gyhoeddir o dan adran 7, a
(b)sy’n dod i ben gyda diwrnod yr etholiad cyffredinol arferol nesaf o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
(3)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu eu hamcanion llesiant.
(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’u hamcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddynt ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio eu hamcanion llesiant.
(6)Rhaid i amcanion llesiant a ddiwygir o dan is-adran (4) neu (5) gael eu gosod ar gyfer gweddill y cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (2).
(7)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio eu hamcanion llesiant o dan is-adran (4) neu (5), rhaid iddynt eu cyhoeddi gyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(8)Wrth osod neu ddiwygio eu hamcanion llesiant, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried adroddiad y Comisiynydd a gyhoeddir o dan adran 23.
(9)Yn is-adran (1), ystyr “etholiad cyffredinol” yw—
(a)y bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), neu
(b)y bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol eithriadol o dan adran 5 o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I16A. 8 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—
(a)heb fod yn hwyrach na 1 Ebrill 2023, a
(b)ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.
(2)Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—
(a)heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y sefydlir y cyd-bwyllgor corfforedig, a
(b)ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.
(3)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adolygu ei amcanion llesiant.
(4)Os yw cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.
(5)Caiff cyd-bwyllgor corfforedig, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio ei amcanion llesiant.
(6)Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig yn diwygio ei amcanion llesiant o dan is-adran (4) neu (5), rhaid iddo eu cyhoeddi gyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(7)Wrth osod neu ddiwygio ei amcanion llesiant, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig ystyried adroddiad y Comisiynydd a gyhoeddir o dan adran 23.]
Diwygiadau Testunol
F3A. 8A wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021 (O.S. 2021/1360), rhlau. 1(2), 2(3)
(1)Nid yw cyfeiriadau yn yr adran hon at gorff cyhoeddus yn cynnwys Gweinidogion Cymru [F4neu gyd-bwyllgor corfforedig].
(2)Rhaid i amcanion llesiant corff cyhoeddus gael eu gosod a’u cyhoeddi—
(a)heb fod yn hwyrach na dechrau’r flwyddyn ariannol sy’n dilyn cychwyn yr adran hon, a
(b)ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’r corff yn eu hystyried yn briodol.
(3)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i gorff cyhoeddus adolygu ei amcanion llesiant.
(4)Os yw corff cyhoeddus yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.
(5)Caiff corff cyhoeddus, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio ei amcanion llesiant.
(6)Pan fo corff cyhoeddus yn diwygio ei amcanion llesiant o dan is-adran (3) neu (4), rhaid iddo eu cyhoeddi gyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.
(7)Wrth osod neu ddiwygio ei amcanion llesiant, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried adroddiad y Comisiynydd o dan adran 23.
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn a. 9(1) wedi eu mewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021 (O.S. 2021/1360), rhlau. 1(2), 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I18A. 9 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a
(b)gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(2)Mewn perthynas â dangosydd cenedlaethol—
(a)rhaid iddo gael ei ddatgan ar ffurf gwerth y gellir eu fesur, neu nodwedd y gellir ei mesur, yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol;
(b)caniateir ei fesur dros unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol;
(c)caniateir ei fesur mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru osod cerrig milltir mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant.
(4)Wrth osod carreg filltir rhaid i Weinidogion Cymru bennu —
(a)y meini prawf ar gyfer penderfynu a yw’r garreg filltir wedi ei chyflawni (drwy gyfeirio at y gwerth y mesurir y dangosydd yn ei erbyn neu’r nodwedd y’i mesurir yn ei herbyn), a
(b)erbyn pryd y mae’r garreg filltir i gael ei chyflawni.
(5)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.
(6)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (5), nad yw un neu ragor o’r dangosyddion cenedlaethol neu’r cerrig milltir yn briodol bellach, rhaid iddynt ei ddiwygio neu eu dwygio.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.
(8)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir o dan is-adran (6) neu (7), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid iddynt—
(a)cyhoeddi’r dangosyddion a’r cerrig milltir fel y’u diwygiwyd, a
(b)gosod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(9)Cyn cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir (gan gynnwys dangosyddion a cherrig milltir a ddiwygiwyd o dan is-adran (6) neu (7)), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)y Comisiynydd;
(b)y cyrff cyhoeddus eraill;
(c)y personau eraill hynny sy’n briodol yn eu barn hwy.
(10)Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y cyhoeddir dangosyddion cenedlaethol o dan is-adran (1), gyhoeddi adroddiad (“adroddiad llesiant blynyddol”) ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r nodau llesiant drwy gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.
(11)Rhaid i adroddiad llesiant blynyddol o dan is-adran (10) bennu’r cyfnodau o amser y mae’r mesuriad o bob dangosydd yn berthnasol iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I20A. 10 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(c)
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ystod y cyfnod o 12 mis gan ddechrau gyda dyddiad etholiad cyffredinol, gyhoeddi adroddiad (“adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol”) sy’n cynnwys—
(a)rhagfynegiadau ynghylch y tueddiadau tebygol yn llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol, a
(b)unrhyw ddata dadansoddol a gwybodaeth gysylltiedig y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
(2)Wrth baratoi adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ystyried unrhyw gam a gymerir gan y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac asesu effaith posibl y cam hwnnw ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, a
(b)ystyried yr adroddiad sy’n cynnwys asesiad o’r risgiau i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i effaith bresennol newid yn yr hinsawdd, a’r effaith a ragwelir, a anfonwyd yn fwyaf diweddar at Weinidogion Cymru o dan adran 56(6) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).
(3)Yn is-adran (2)(a), ystyr “Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig” yw’r nodau [F5a bennir yn Trawsnewid ein byd: Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig gan benderfyniad A/Res/70/1 ar 25 Medi 2015]
(4)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ddyddiad etholiad cyffredinol yn gyfeiriad at y dyddiad y cynhelir etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (neu’r dyddiad y byddai wedi ei gynnal heblaw am adran 5(5) o’r Ddeddf honno).
Diwygiadau Testunol
F5Geiriau yn a. 11(3) wedi eu hamnewid (21.5.2016) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), a. 88(2)(a), Atod. 2 para. 10(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I22A. 11 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ar y cynnydd a wnaed ganddynt at gyflawni eu hamcanion llesiant, a
(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(2)Wrth baratoi adroddiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu eu hamcanion llesiant.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (2), nad yw un neu ragor o’u hamcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddynt ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol a chyhoeddi’r amcan neu’r amcanion diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio un neu ragor o’u hamcanion o dan is-adran (3), rhaid i’r adroddiad gynnwys eglurhad am y diwygiad a’r rhesymau dros ei wneud.
(5)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gael ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn cyfeirio ati.
Gwybodaeth Cychwyn
I23A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I24A. 12 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus ac eithrio Gweinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar y cynnydd a wnaed ganddo at gyflawni ei amcanion llesiant.
(2)Wrth baratoi adroddiad o dan Atodlen 1, neu o dan ddarpariaeth a ddiwygir gan yr Atodlen honno, rhaid i gorff cyhoeddus adolygu ei amcanion llesiant.
(3)Os yw corff cyhoeddus yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (2), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol a chyhoeddi’r amcan neu’r amcanion diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(4)Pan fo corff cyhoeddus yn diwygio un neu ragor o’i amcanion o dan is-adran (3), rhaid i’r adroddiad gynnwys eglurhad am y diwygiad a’r rhesymau dros ei wneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I25A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I26A. 13 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus eraill ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)Wrth arfer swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i gorff cyhoeddus roi sylw i ganllawiau o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I27A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I28A. 14 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(d)
(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymchwiliadau o gyrff cyhoeddus at ddibenion asesu i ba raddau y mae corff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth—
(a)gosod amcanion llesiant, a
(b)cymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny.
(2)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal ymchwiliad o’r fath o bob corff cyhoeddus o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (6).
(3)Cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (6), rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi adroddiad ar ganlyniadau’r ymchwiliadau a gynhaliwyd o dan is-adran (1) yn ystod y cyfnod hwnnw i’r Cynulliad Cenedlaethol.
(4)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod unrhyw adroddiad y mae’n paratoi o dan is-adran (3) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(5)Wrth gynnal ymchwiliad o dan is-adran (1), rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—
(a)ystyried unrhyw gyngor neu gymorth a roddwyd i’r corff cyhoeddus, neu unrhyw adolygiad o’r corff ac argymhellion a roddwyd i’r corff, gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (gweler Rhan 3), a
(b)ymgynghori â’r Comisiynydd.
(6)Mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3)—
(a)yn dechrau ar y dyddiad sy’n digwydd un flwyddyn cyn y dyddiad y mae etholiad cyffredinol arferol i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a
(b)yn dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad nesaf o’r fath i’w gynnal.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 15(2)(3)(6)(a) eithrio (23.11.2015) gan Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015 (O.S. 2015/1924), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
I29A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I30A. 15 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
Yn lle adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (datblygu cynaliadwy) rhodder—
(1)The Welsh Ministers must, in the exercise of their functions, make appropriate arrangements to promote sustainable development.
(2)After each financial year the Welsh Ministers must publish a report containing a statement of the arrangements made in pursuance of subsection (1) that had effect during that financial year and must lay a copy of the report before the Assembly.
(3)The arrangements referred to in subsection (1) may be made by the Welsh Ministers exercising their functions under section (2) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (duty of Welsh public bodies to set objectives and take steps to meet them in accordance with the sustainable development principle).”.
Gwybodaeth Cychwyn
I31A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I32A. 16 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Sefydlir swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel y “Comisiynydd”).
(2)Rhaid i’r Comisiynydd fod yn unigolyn a benodir gan Weinidogion Cymru.
(3)Cyn gwneud y penodiad o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Cynulliad Cenedlaethol drwy ei bwyllgor cyfrifol.
(4)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I33A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I34A. 17 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(e)
Dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd yw—
(a)hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn arbennig er mwyn—
(i)gweithredu fel gwarchodwr gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, a
(ii)annog cyrff cyhoeddus i roi rhagor o ystyriaeth i effaith hirdymor yr hyn a wnânt, a
(b)at y diben hwnnw i fonitro ac asesu cyflawniad yr amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus.
Gwybodaeth Cychwyn
I35A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I36A. 18 mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2
(1)Caiff y Comisiynydd, wrth gyflawni dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd—
(a)darparu cyngor neu gymorth i gorff cyhoeddus (gan gynnwys darparu cyngor ar newid hinsawdd);
(b)darparu cyngor i Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy;
(c)darparu cyngor neu gymorth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ynghylch paratoi ei gynllun llesiant lleol (gweler adran 42);
(d)darparu cyngor neu gymorth i unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd camau (neu’n dymuno cymryd camau) a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;
(e)hybu’r arferion gorau ymhlith cyrff cyhoeddus wrth iddynt gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
(f)hyrwyddo ymwybyddiaeth ymysg cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
(g)annog cyrff cyhoeddus i gydweithio ac i weithio gyda phersonau eraill pe gallai hynny eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant;
(h)ceisio cyngor gan banel gynghori (gweler adran 26) mewn perthynas ag arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Comisiynydd.
(2)Caiff y Comisiynydd ymgymryd â gwaith ymchwil neu astudiaethau eraill mewn perthynas â’r canlynol—
(a)i ba raddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy,
(b)i ba raddau y mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei hystyried yn y dangosyddion cenedlaethol,
(c)yr egwyddor datblygu cynaliadwy ei hun (gan gynnwys sut y cymhwysir yr egwyddor i osod a chyflawni amcanion llesiant), a
(d)unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny sy’n effeithio ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru (neu unrhyw ran o Gymru).
(3)Nid yw’r cyfeiriadau yn yr adran hon at ddarparu cymorth i gorff cyhoeddus yn cynnwys darparu cymorth ariannol.
Gwybodaeth Cychwyn
I37A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I38A. 19 mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2
(1)Caiff y Comisiynydd gynnal adolygiad ynghylch i ba raddau y mae corff cyhoeddus yn diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion drwy ystyried effaith hirdymor y pethau y mae’r corff yn eu gwneud o dan adran 3.
(2)Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd adolygu—
(a)y camau y mae’r corff wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion llesiant;
(b)i ba raddau y mae’r corff yn cyflawni ei amcanion llesiant;
(c)a yw corff wedi gosod amcanion llesiant ac wedi cymryd camau i’w cyflawni yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
(3)Wrth gynnal adolygiad, rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i unrhyw ymchwiliad o’r corff a gynhelir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 15.
(4)Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd wneud argymhellion i’r corff cyhoeddus ynghylch—
(a)y camau y mae’r corff wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion llesiant;
(b)sut i osod amcanion llesiant a chymryd camau i’w cyflawni yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
(5)Caiff y Comisiynydd gynnal un adolygiad o ddau gorff cyhoeddus neu ragor.
(6)Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi adroddiad ar adolygiad (gan gynnwys unrhyw argymhellion a wneir) ac anfon copi ohono at Weinidogion Cymru.
(7)Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus ddarparu’r wybodaeth honno y mae’r Comisiynydd yn ei hystyried yn berthnasol i’r adolygiad.
(8)Ond nid yw’n ofynnol i gorff cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i’r Comisiynydd os yw’r corff wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I39A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I40A. 20 mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2
(1)Wrth ddarparu cyngor neu gymorth i Weinidogion Cymru, caiff y Comisiynydd hefyd wneud argymhellion i’r Gweinidogion ynghylch y nodau llesiant neu’r dangosyddion cenedlaethol.
(2)Os yw’r Comisiynydd yn gwneud argymhellion o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r argymhellion hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I41A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I42A. 21 mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2
(1)Rhaid i gorff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol i ddilyn y ffordd o weithredu a nodir yn yr argymhellion a wneir iddo gan y Comisiynydd o dan adran 20(4) oni bai bod—
(a)y corff cyhoeddus yn fodlon bod rheswm da iddo beidio â dilyn yr argymhelliad mewn categorïau penodol o achosion neu o gwbl, neu
(b)yn penderfynu ar ddull gweithredu amgen mewn perthynas â phwnc yr argymhelliad.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus eraill ynghylch sut i ymateb i argymhelliad a wneir gan y Comisiynydd.
(3)Wrth benderfynu sut i ymateb i argymhelliad o’r fath, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried canllawiau o’r fath.
(4)Rhaid i gorff cyhoeddus gyhoeddi ei ymateb i argymhelliad a wneir gan y Comisiynydd ac os nad yw’r corff yn dilyn argymhelliad, rhaid i’r ymateb gynnwys rheswm y corff dros wneud hynny ac egluro pa gamau gweithredu amgen, os o gwbl, y mae’n bwriadu eu cymryd.
Gwybodaeth Cychwyn
I43A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I44A. 22(1)(4) mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2
I45A. 22(2) mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(f)
I46A. 22(3) mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(g)
(1)Rhaid i’r Comisiynydd baratoi a chyhoeddi, cyn diwedd pob cyfnod adrodd, adroddiad sy’n cynnwys asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn gosod amcanion llesiant, a’u cyflawni, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
(2)Rhaid i adroddiad y Comisiynydd gynnwys, yn benodol, asesiad o sut y dylai cyrff cyhoeddus—
(a)gwella’r modd o ddiogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, a
(b)cymryd mwy o ystyriaeth o effaith hirdymor yr hyn a wnânt.
(3)Yn yr adran hon ac yn adran 24, y “cyfnod adrodd” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau gyda’r diwrnod ar ôl y diwrnod y cyhoeddir adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol o dan adran 11, a
(b)sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn y dyddiad sydd flwyddyn union cyn y dyddiad y cynhelir y bleidlais yn yr etholiad cyffredinol nesaf o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
(4)Yn ogystal â’r asesiad a grybwyllir yn is-adran (1), rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gynnwys y canlynol—
(a)crynodeb o’r dystiolaeth a gasglodd y Comisiynydd a’r gweithgareddau yr ymgymerodd y Comisiynydd â hwy yn ystod y cyfnod adrodd (gweler adran 24);
(b)crynodeb o’r adolygiadau a gynhaliwyd gan y Comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd (gweler adran 20);
(c)crynodeb o unrhyw gamau eraill a gymerodd y Comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.
(5)Caiff adroddiad o dan yr adran hon gynnwys—
(a)adroddiad ar unrhyw waith ymchwil neu astudiaethau eraill yr ymgymerwyd â hwy o dan adran 19(2);
(b)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol.
(6)Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o adroddiad a gyhoeddir o dan yr adran hon at Weinidogion Cymru.
(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o adroddiad a anfonir atynt o dan is-adran (6) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cyfnod adrodd drwy reoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I47A. 23 mewn grym ar 30.4.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(b)
I48A. 23 mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2
(1)Yn ystod cyfnod adrodd (ond cyn i’r adroddiad o dan adran 23 gael ei gyhoeddi) rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â’r canlynol—
(a)y panel cynghori (gweler adran 26);
(b)pob corff cyhoeddus;
(c)cynrychiolwyr mudiadau gwirfoddol yng Nghymru;
(d)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd camau (neu’n dymuno cymryd camau) a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;
(e)cynrychiolwyr personau sy’n preswylio ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru;
(f)cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yng Nghymru;
(g)undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yng Nghymru;
(h)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol er mwyn sicrhau bod buddiannau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn cael eu cynrychioli'n llawn.
(2)Wrth baratoi adroddiad o dan adran 23 rhaid i’r Comisiynydd (yn ogystal ag ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan bersonau yr ymgynghorwyd â hwy o dan is-adran (1)) ystyried y canlynol—
(a)pob adroddiad llesiant blynyddol o dan adran 10(10) a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod adrodd;
(b)yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol a gyhoeddir o dan adran 11 ar y diwrnod cyn i’r cyfnod adrodd ddechrau;
(c)adroddiadau perthnasol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I49A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I50A. 24 mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Comisiynydd yn bwriadu cynnal adolygiad o gorff o dan adran 20 a’i bod yn ymddangos i’r Comisiynydd bod yr adolygiad hwnnw yn ymwneud â mater sydd yr un fath â phwnc y canlynol, neu’n sylweddol debyg i’r canlynol—
(a)adolygiad gan Gomisiynydd Plant Cymru o dan adran 72B o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14);
(b)adolygiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru o dan adran 3 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (p.30);
(c)ymholiad gan Gomisiynydd y Gymraeg o dan adran 7 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1).
[F6(d)ymchwiliad o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3) gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (ac mae cyfeiriadau yn yr adran hon at y Comisiynydd arall neu’r Comisiynwyr yn cynnwys yr Ombwdsmon).]
(2)Caiff y Comisiynydd—
(a)hysbysu’r Comisiynydd arall am y bwriad i gynnal yr adolygiad, a
(b)ymgynghori â’r Comisiynydd arall ynghylch yr adolygiad.
(3)Caiff y Comisiynwyr—
(a)cydweithredu;
(b)paratoi a chyhoeddi dogfen ar y cyd sydd i’w thrin fel y ddau beth hyn—
(i)yr adroddiad ar yr adolygiad sy’n ofynnol gan adran 20(6), a
(ii)adroddiad ar yr adolygiad neu’r ymchwiliad y cyfeirir ato yn is-adran (1) o’r adran hon.
Diwygiadau Testunol
F6A. 25(1)(d) wedi ei fewnosod (23.7.2019) gan Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (anaw 3), a. 77(1), Atod. 5 para. 5; O.S. 2019/1096, rhl. 2
Gwybodaeth Cychwyn
I51A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I52A. 25 mewn grym ar 1.2.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 2
(1)Sefydlir panel o gynghorwyr (y “panel cynghori”) at y diben o ddarparu cyngor i’r Comisiynydd ynghylch arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.
(2)Dyma aelodau’r panel cynghori—
(a)Comisiynydd Plant Cymru;
(b)Comisiynydd y Gymraeg;
(c)Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;
(d)yr aelod staff o fewn Llywodraeth Cymru a ddynodwyd yn Brif Swyddog Meddygol Cymru gan Weinidogion Cymru;
(e)cadeirydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu aelod anweithredol arall o’r corff hwnnw a ddetholir gan y cadeirydd;
(f)swyddog o’r corff sy’n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru a elwir yn Wales TUC Cymru a enwebir gan y corff hwnnw;
(g)cadeirydd, cyfarwyddwr neu swyddog tebyg y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi mewn corff sy’n cynrychioli personau sy’n cynnal busnes yng Nghymru;
(h)y cyfryw berson arall ag y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi.
Gwybodaeth Cychwyn
I53A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I54A. 26 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(h)
(1)Cyn penodi aelod o dan adran 26(2)(h) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiynydd.
(2)Mae aelod penodedig yn dal y swydd am gyfnod o ddim llai na 3 blynedd a dim mwy na 5 mlynedd fel y penderfynir gan Weinidogion Cymru.
(3)Caniateir ailbenodi aelod penodedig unwaith, am gyfnod pellach o ddim llai na 3 blynedd a dim mwy na 5 mlynedd (pa un a yw’r cyfnod hwn yn gyfnod olynol wedi penodiad cyntaf yr aelod ai peidio).
(4)Caiff Gweinidogion Cymru roi taliad cydnabyddiaeth i aelodau penodedig.
(5)Caiff aelod penodedig ymddiswyddo o’r panel drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 3 mis i Weinidogion Cymru o fwriad yr aelod i wneud hynny.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â'r Comisiynydd ddiswyddo aelod penodedig os yw’n fodlon bod yr aelod—
(a)yn anaddas i barhau i fod yn aelod o’r panel, neu
(b)yn analluog neu’n anfodlon i weithredu fel aelod.
Gwybodaeth Cychwyn
I55A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I56A. 27 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(i)
Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau’r panel cynghori.
Gwybodaeth Cychwyn
I57A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I58A. 28 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(j)
(1)Sefydlir bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
(2)Dyma aelodau pob bwrdd—
(a)yr awdurdod lleol;
(b)y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(c)yr awdurdod tân ac achub yng Nghymru ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(d)Corff Adnoddau Naturiol Cymru.
(3)Yn y Rhan hon, mae unrhyw gyfeiriad at “bwrdd gwasanaethau cyhoeddus” (neu “fwrdd”) yn gyfeiriad at aelodau’r bwrdd hwnnw yn gweithredu ar y cyd; yn unol â hynny, mae swyddogaeth a fynegir fel un o swyddogaethau bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn swyddogaeth i bob aelod o’r bwrdd na ellir ond ei harfer ar y cyd â’r aelodau eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I59A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I60A. 29 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal awdurdod lleol wahodd y personau a ganlyn i gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)prif gwnstabl yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(c)y comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(d)person y mae’n ofynnol iddo, yn unol â threfniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p.21), ddarparu gwasanaethau prawf mewn perthynas â’r ardal awdurdod leol;
(e)o leiaf un corff sy’n cynrychioli mudiadau gwirfoddol perthnasol (pa un ai Cyngor Gwirfoddol Sirol y gelwir y corff ai peidio).
(2)Caiff pob bwrdd wahodd unrhyw berson arall sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus i gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd, hyd yn oed os yw’r person hwnnw hefyd yn arfer swyddogaethau eraill.
(3)Yn yr adran hon ac yn adran 31, mae unrhyw gyfeiriad at gyfranogi yng ngweithgarwch bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn gyfeiriad at gydweithio â’r bwrdd, unrhyw aelod ohono neu unrhyw berson arall sy’n derbyn gwahoddiad i gyfranogi o dan yr adran hon, ar unrhyw beth a wna’r bwrdd o dan adran 36 (Dyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus).
(4)Yn is-adran (3), mae “cydweithio” yn cynnwys—
(a)cyflwyno sylwadau i’r bwrdd ynghylch cynnwys—
(i)asesiad o dan adran 37, neu
(ii)cynllun llesiant lleol, cynllun drafft neu ddiwygiadau arfaethedig i gynllun (gweler adrannau 43(1) a 44(4)),
(b)cymryd rhan yng nghyfarfodydd y bwrdd (sy’n cynnwys, ar wahoddiad aelodau’r bwrdd ac yn ddarostyngedig i baragraffau 2(1) a 3(1) o Atodlen 3, cadeirio’r cyfarfodydd), ac
(c)darparu cyngor a chymorth arall i’r bwrdd.
(5)Mewn perthynas â pherson sy’n derbyn gwahoddiad i gyfranogi yng ngweithgarwch bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
(a)cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “cyfranogwr gwadd”; ond
(b)nid yw’n dod yn aelod o’r bwrdd yn rhinwedd y ffaith ei fod yn derbyn y gwahoddiad.
(6)Nid yw’r cyfeiriad yn is-adran (4)(c) at ddarparu cymorth i’r bwrdd yn cynnwys darparu cymorth ariannol.
Gwybodaeth Cychwyn
I61A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I62A. 30 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i wahoddiad o dan adran 30(1) gael ei ddyroddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn—
(a)cyfarfod cyntaf bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler paragraff 2(1) o Atodlen 3), a
(b)pob cyfarfod a gynhelir o dan baragraff 3(1) o’r Atodlen honno.
(2)Mewn perthynas â gwahoddiad o dan adran 30(1) neu (2)—
(a)caiff fod ar ba ffurf bynnag y bydd y bwrdd yn penderfynu arno; ond
(b)rhaid iddo bennu’r person y dylid anfon ymateb ato.
(3)Caiff cyfranogwr gwadd gyfranogi yng ngweithgarwch bwrdd yn y cyfnod—
(a)sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw’r ymateb yn derbyn y gwahoddiad i law’r person y dylid anfon ymateb ato, a
(b)sy’n dod i ben ar y dyddiad y cynhelir yr etholiad arferol nesaf o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr).
Gwybodaeth Cychwyn
I63A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I64A. 31 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Dyma bartneriaid eraill bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
(a)cyngor cymuned ar gyfer cymuned mewn ardal sydd o fewn yr ardal awdurdod lleol (neu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol) (ond gweler hefyd adran 40);
(b)ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(c)Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer ardal sydd o fewn yr ardal awdurdod lleol (neu y mae unrhyw rhan ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol);
(d)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru y mae unrhyw ran ohono o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(e)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
(f)sefydliad yn y sector addysg bellach neu’r sector addysg uwch sydd wedi ei leoli yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(g)Cyngor Celfyddydau Cymru;
(h)Cyngor Chwaraeon Cymru;
(i)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
(j)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
(2)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i fwrdd—
(a)gofyn am gyngor ei bartneriaid eraill, a
(b)eu cynnwys fel arall yn y fath fodd ac i’r fath raddau ag sy’n briodol yn eu barn hwy.
(3)Yn is-adran (1)(f), mae i “sector addysg bellach” a “sector addysg uwch” yr un ystyr ag a roddir i “further education sector” a “higher education sector” yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).
Gwybodaeth Cychwyn
I65A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I66A. 32 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio adrannau 29(2), 30(1) neu 32(1) drwy—
(a)ychwanegu person,
(b)tynnu person ymaith, neu
(c)diwygio’r disgrifiad o berson.
(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ond ddiwygio adrannau 29(2), 30(1) neu 32(1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygio adran 29(2), 30(1) neu 32(1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw’r Rhan hon ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny sydd ganddo o natur gyhoeddus.
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)aelodau, cyfranogwyr gwadd a phartneriaid eraill y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r rheoliadau arfaethedig yn ymwneud â hwy, a
(b)os bydd y rheoliadau hynny yn diwygio adran 29(2), 30(1) neu 32(1) er mwyn ychwanegu person, y person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I67A. 33 mewn grym ar 30.4.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(b)
I68A. 33 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch byrddau gwasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys darpariaeth ynghylch eu cyfarfodydd a’u cylch gorchwyl).
Gwybodaeth Cychwyn
I69A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I70A. 34 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i drefniadau gweithredol awdurdod lleol o dan Adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) sicrhau bod gan ei bwyllgor trosolwg a chraffu y pŵer—
(a)i adolygu’r penderfyniadau, neu i graffu ar y penderfyniadau, a wneir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr ardal awdurdod lleol wrth arfer ei swyddogaethau, neu i wneud hynny mewn perthynas â’r camau eraill a gymerir ganddo wrth arfer ei swyddogaethau;
(b)i adolygu trefniadau llywodraethu y bwrdd neu i graffu arnynt;
(c)i gyflwyno adroddiadau neu argymhellion i’r bwrdd mewn perthynas â swyddogaethau neu drefniadau llywodraethu y bwrdd;
(d)i ystyried y materion hynny mewn perthynas â’r bwrdd y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfeirio ato, ac i adrodd i Weinidogion Cymru yn unol â hynny;
(e)i ymgymryd â’r swyddogaethau eraill hynny mewn perthynas â’r bwrdd a osodir arno gan y Ddeddf hon.
(2)Rhaid i bwyllgor trosolwg a chraffu anfon copi o unrhyw adroddiad neu argymhelliad a wneir o dan is-adran (1)(c) at—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)y Comisiynydd;
(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru.
(3)Caiff pwyllgor trosolwg a chraffu, at ddiben arfer pŵer a grybwyllir yn is-adran (1), ei gwneud yn ofynnol i un neu ragor o’r personau a gaiff fynychu un o gyfarfodydd y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler paragraff 7 o Atodlen 3), neu unrhyw un a ddynodir gan berson o’r fath, fynychu un o gyfarfodydd y pwyllgor a darparu eglurhad iddo ar y materion hynny y caiff y pwyllgor eu pennu.
(4)Pan fo gan awdurdod lleol fwy nag un pwyllgor trosolwg a chraffu, mae’r cyfeiriadau yn y Rhan hon at ei bwyllgor trosolwg a chraffu yn gyfeiriad at y pwyllgor a ddynodir gan yr awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I71A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I72A. 35 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.
(2)Rhaid i gyfraniad bwrdd gwasanaethau cyhoeddus at gyrraedd y nodau gynnwys—
(a)asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal (gweler adrannau 37 a 38),
(b)gosod amcanion (“amcanion lleol”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf o fewn ei ardal at gyrraedd y nodau hynny, ac
(c)bod aelodau’r bwrdd yn cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer eu swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny (ond gweler adran 39(2)(b)).
(3)Rhaid i unrhyw beth y mae bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud o dan yr adran hon gael ei wneud yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
(4)Mae adrannau 39 i 45 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau llesiant lleol gan gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus nodi mewn cynlluniau o’r fath eu hamcanion lleol a’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i’w cyflawni.
Gwybodaeth Cychwyn
I73A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I74A. 36 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal.
(2)Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi’r asesiad ymhen dim mwy na blwyddyn cyn y dyddiad y mae cynllun llesiant lleol i’w gyhoeddi o dan is-adran F7...(7) o adran 39.
(3)Rhaid i asesiad—
(a)pennu’r ardaloedd r cymunedol sy’n ffurfio ardal y bwrdd;
(b)cynnwys dadansoddiad o gyflwr llesiant ym mhob ardal gymunedol ac yn yr ardal yn ei chyfanrwydd;
(c)cynnwys dadansoddiad o gyflwr llesiant y bobl yn yr ardal;
(d)cynnwys unrhyw ddadansoddiad pellach y mae’r bwrdd yn ei gynnal drwy gyfeirio at feini prawf a osodir ac a gymhwysir ganddo at ddiben asesu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal neu mewn unrhyw gymuned o fewn yr ardal;
(e)cynnwys rhagfynegiadau o dueddiadau tebygol ar gyfer y dyfodol yn llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal;
(f)cynnwys unrhyw ddata a gwybodaeth ddadansoddol gysylltiedig arall y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol.
(4)Rhaid i ddadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (3)—
(a)cyfeirio at unrhyw ddangosyddion cenedlaethol a gyhoeddwyd o dan adran 10;
(b)cyfeirio at adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol o dan adran 11 i’r graddau y mae’n berthnasol i asesu llesiant yn yr ardal.
(5)Mae’r ardaloedd r cymunedol sy’n ffurfio ardal bwrdd i’w pennu—
(a)yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, neu
(b)os nad oes rheoliadau o’r fath wedi eu gwneud, gan y bwrdd.
(6)Caiff y dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (3)(c) gynnwys dadansoddiadau o gategorïau penodol o bersonau y penderfyna’r bwrdd arnynt drwy gyfeirio at—
(a)y ffaith bod personau’n hyglwyf neu o dan anfantais fel arall am yr un rhesymau neu am resymau tebyg;
(b)bod y personau’n meddu ar nodwedd warchodedig gyffredin o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15);
(c)bod y personau’n blant (personau o dan 18 oed);
(d)bod y personau’n bobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) fel y’u disgrifir yn adran 104 o’r Ddeddf honno;
(e)a yw’r personau—
(i)yn bersonau y gallai fod arnynt angen gofal a chymorth (fel y’u disgrifir yn Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)); neu
(ii)yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal a chymorth i bersonau y gallai fod ei angen arnynt;
(f)unrhyw ffactor cyffredin arall y mae’r Bwrdd yn ei ystyried yn briodol wrth ddisgrifio categori o bersonau.
(7)Rhaid i bob bwrdd anfon copi o’i asesiad at—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)y Comisiynydd;
(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(d)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol.
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn a. 37(2) wedi eu hepgor (20.3.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I75A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I76A. 37 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Cyn cyhoeddi ei asesiad o dan adran 37, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ymgynghori â’r canlynol—
(a)y Comisiynydd;
(b)cyfranogwyr gwadd y bwrdd;
(c)ei bartneriaid eraill;
(d)y cyfryw bersonau na wnaethant dderbyn gwahoddiad a gawsant gan y bwrdd o dan adran 30 ag y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;
(e)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol;
(f)unrhyw fudiad gwirfoddol perthnasol y mae’r bwrdd yn ei ystyried yn briodol;
(g)cynrychiolwyr personau sy’n preswylio yn ei ardal;
(h)cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yn ei ardal;
(i)undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yn ei ardal;
(j)y personau hynny sydd â diddordeb mewn cynnal a gwella adnoddau naturiol y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;
(k)unrhyw bersonau eraill y mae ganddynt, ym marn y bwrdd, ddiddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.
(2)Fel rhan o’r ymgynghoriad o dan is-adran (1), rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddarparu drafft o’i asesiad i bob ymgynghorai.
(3)Wrth baratoi ei asesiad, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ystyried pob un o’r canlynol—
(a)yr adroddiad sy’n cynnwys asesiad o’r risgiau i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i effaith bresennol newid yn yr hinsawdd, a’r effaith a ragwelir, a anfonwyd yn fwyaf diweddar at Weinidogion Cymru o dan adran 56(6) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27);
(b)yr adolygiad diweddaraf o ddigonolrwydd y ddarpariaeth addysg feithrin ar gyfer yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd o dan adran 119(5)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);
(c)yr asesiad diweddaraf o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant yn yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 26(1) o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p.21);
(d)yr asesiad diweddaraf o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd o dan adran 11(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1);
(e)yr asesiad diweddaraf a gynhaliwyd gan yr awdurdod lleol ar y cyd â Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol);
(f)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37) sy’n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn yn yr ardal awdurdod lleol;
(g)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal awdurdod lleol;
[F8(ga)pob datganiad ardal o dan adran 11 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (os o gwbl) sy’n ymwneud ag unrhyw ran o ardal yr awdurdod lleol;]
(h)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â lleihau aildroseddu yn yr ardal awdurdod lleol;
(i)y cyfryw adolygiad neu asesiad arall mewn perthynas â’r ardal awdurdod lleol a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (neu unrhyw ddadansoddiad arall a ddynodir mewn rheoliadau o’r fath fel adolygiad neu asesiad at ddiben yr adran hon).
Diwygiadau Testunol
F8A. 38(3)(ga) wedi ei fewnosod (21.5.2016) gan Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (anaw 3), a. 88(2)(a), Atod. 2 para. 10(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I77A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I78A. 38 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi cynllun (“cynllun llesiant lleol”) sy’n nodi ei amcanion lleol a’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i’w cyflawni.
(2)Caiff y cynllun gynnwys amcanion—
(a)sydd hefyd yn amcanion llesiant a gyhoeddwyd o dan Ran 2 gan aelod o’r bwrdd;
(b)sydd i’w cyflawni drwy gymryd camau—
(i)gan un neu ragor o aelodau o’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill sy’n gweithredu’n unigol, neu
(ii)unrhyw gyfuniad o aelodau, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill sy’n gweithredu ar y cyd.
(3)Ond ni chaniateir i gynllun gynnwys amcan sydd i’w gyflawni drwy gamau sydd i’w cymryd gan gyfranogwr gwadd neu bartner arall (pa un ai yn unigol neu ar y cyd mewn unrhyw gyfuniad o aelodau, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill) ond os yw’r bwrdd wedi cael cydsyniad y cyfranogwr gwadd neu’r partner arall hwnnw, yn ôl y digwydd.
(4)Wrth osod ei amcanion llesiant rhaid i fwrdd ystyried adroddiad y Comisiynydd o dan adran 23.
(5)Rhaid i gynllun llesiant lleol gynnwys datganiad—
(a)sy’n egluro pam y mae’r bwrdd yn ystyried y bydd cyflawni’r amcanion lleol yn cyfrannu o fewn yr ardal at gyrraedd y nodau llesiant;
(b)sy’n egluro sut y mae’r amcanion ac unrhyw gamau arfaethedig wedi eu gosod mewn cysylltiad ag unrhyw faterion a grybwyllir yn yr asesiad diweddaraf o lesiant a gyhoeddwyd o dan adran 37;
(c)sy’n pennu’r cyfnodau amser y mae’r bwrdd yn disgwyl cyflawni’r amcanion o fewn iddynt;
(d)sy’n egluro sut y mae unrhyw gamau arfaethedig i’w cymryd yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
(e)os yw’r cynllun yn cynnwys amcanion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(b), sy’n pennu’r camau arfaethedig i’w cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion hynny ac, yn achos camau i’w cymryd gan gyfuniad o aelodau’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill, y personau sydd yn y cyfuniad;
(f)os nad y cynllun cyntaf i’r bwrdd ei gyhoeddi yw’r cynllun, sy’n pennu’r camau a gymerwyd i gyflawni’r amcanion a nodir yng nghynllun blaenorol y bwrdd a phennu i ba raddau y mae’r amcanion hynny wedi eu cyflawni;
(g)sy’n darparu unrhyw wybodaeth arall y mae’r bwrdd yn ei hystyried yn briodol.
F9(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(7)[F10Rhaid] i bob bwrdd gyhoeddi cynllun llesiant lleol ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad y cynhelir bob etholiad arferol [F11o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)] .
(8)Rhaid i bob bwrdd anfon copi o’i gynllun at—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)y Comisiynydd;
(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(d)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol.
Diwygiadau Testunol
F9A. 39(6) wedi ei hepgor (20.3.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(4)(a)
F10Gair yn a. 39(7) wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(4)(b)(i)
F11Geiriau yn a. 39(7) wedi eu hamnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(4)(b)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I79A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I80A. 39 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i gyngor cymuned gymryd pob cam rhesymol yn ei ardal tuag at gyflawni’r amcanion lleol a gynhwysir yn y cynllun llesiant lleol sy’n cael effaith yn ei ardal.
(2)Ond nid yw cyngor cymuned yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) ond os oedd, ar gyfer y tair blynedd ariannol flaenorol cyn i’r cynllun llesiant lleol ar gyfer ei ardal gael ei gyhoeddi, ei incwm gros neu ei wariant gros yn £200,000 o leiaf.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r meini prawf a bennir gan is-adran (2) ar gyfer dyfarnu a yw cyngor cymunedol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1); a chaiff y rheoliadau adlewyrchu’r ddarpariaeth a wneir am gynghorau cymunedol mewn rheoliadau o dan adran 39 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p.23).
(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)y Comisiynydd;
(b)y cynghorau cymuned a fyddai’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) pe bai’r rheoliadau yn cael eu gwneud;
(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
(5)Rhaid i gyngor cymuned gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yr oedd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn is-adran (1), adroddiad ar y cynnydd y mae wedi ei wneud yn ei ardal o ran cyflawni’r amcanion lleol sydd yn y cynllun llesiant lleol sydd mewn grym yn ei ardal.
(6)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (5) gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r cynghorau cymuned sy‘n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) ynghylch arfer y ddyletswydd.
(8)Wrth arfer y ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i gyngor cymuned ystyried canllawiau o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I81A. 40 mewn grym ar 30.4.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(b)
I82A. 40(1)-(6) mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
I83A. 40(7) mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(k)
I84A. 40(8) mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(l)
(1)Wrth baratoi ei gynllun llesiant lleol (a chyn ymgynghori o dan adran 43), caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) i ddarparu gwybodaeth i’r bwrdd ynghylch unrhyw weithred y mae’n ei chyflawni a allai gyfrannu o fewn ardal y bwrdd at gyrraedd y nodau llesiant.
(2)Y personau yw—
(a)y personau a wahoddir i gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd, heblaw am Weinidogion Cymru (gweler adran 30);
(b)partneriaid eraill y bwrdd (gweler adran 32).
(3)Ond nid yw’n ofynnol i berson a grybwyllir yn is-adran (2) ddarparu gwybodaeth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
(a)os yw’r person yn ystyried y byddai gwneud hynny—
(i)yn anghydnaws â‘i ddyletswyddau, neu
(ii)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau, neu
(b)os yw’r person wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.
(4)Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (2) yn penderfynu, drwy ddibynnu ar is-adran (3)(a), nad yw’n ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, rhaid iddo roi resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r bwrdd.
Gwybodaeth Cychwyn
I85A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I86A. 41 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Wrth baratoi ei gynllun llesiant lleol (a chyn ymgynghori o dan adran 43), rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus geisio cyngor y Comisiynydd o ran sut i gymryd camau i gyflawni’r amcanion lleol i’w cynnwys yn y cynllun yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
(2)Rhaid i’r Comisiynydd roi’r cyngor—
(a)yn ysgrifenedig, a
(b)ymhen dim llai na 14 o wythnosau ar ôl ei geisio.
(3)Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi cyngor y Comisiynydd yr un pryd ag y mae’n cyhoeddi’r cynllun llesiant lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I87A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I88A. 42 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Cyn cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ymgynghori â’r canlynol—
(a)y Comisiynydd (ar ôl cael cyngor gan y Comisiynydd o dan adran 42(2));
(b)ei gyfranogwyr gwadd;
(c)ei bartneriaid eraill;
(d)y cyfryw bersonau na wnaethant dderbyn gwahoddiad a gawsant gan y bwrdd o dan adran 30 ag y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;
(e)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol;
(f)unrhyw fudiad gwirfoddol perthnasol y mae’r bwrdd yn ei ystyried yn briodol;
(g)cynrychiolwyr personau sy’n preswylio yn ei ardal;
(h)cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yn ei ardal;
(i)undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yn ei ardal;
(j)y personau hynny sydd â diddordeb mewn cynnal a gwella adnoddau naturiol yn ardal y bwrdd y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;
(k)unrhyw bersonau eraill sydd, ym marn y bwrdd, â buddiant mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.
(2)Fel rhan o’r ymgynghoriad o dan is-adran (1), rhaid i bob bwrdd ddarparu cynllun llesiant lleol drafft i bob ymgynghorai.
(3)Rhaid i’r ymgynghoriad o dan is-adran (1) beidio â dod i ben hyd nes bod o leiaf 12 wythnos wedi mynd heibio ers y diwrnod y dechreuodd yr ymgynghoriad.
(4)Cyn cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod lle mae pob aelod yn cadarnhau ei fod yn cymeradwyo’r cynllun ar gyfer ei gyhoeddi.
(5)Os yw’r awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithredol o dan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), ni chaiff gweithrediaeth yr awdurdod arfer y swyddogaeth o gymeradwyo’r cynllun llesiant o dan y trefniadau hynny; at hynny nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau etc.) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.
(6)Yn achos pob Bwrdd Iechyd Lleol, pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, ni cheir arfer y swyddogaeth o gymeradwyo’r cynllun llesiant lleol ond mewn cyfarfod o’r corff o dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I89A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I90A. 43 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
(a)adolygu a diwygio ei amcanion lleol;
(b)adolygu a diwygio ei gynllun llesiant lleol (a rhaid iddo ddiwygio ei gynllun os yw wedi diwygio ei amcanion lleol).
(2)O ran pob bwrdd—
(a)rhaid iddo adolygu ei amcanion lleol neu ei gynllun llesiant lleol os yw’n cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, a
(b)caiff ddiwygio ei amcanion neu ddiwygio ei gynllun o ganlyniad i adolygiad o’r fath.
(3)Wrth roi cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau am ei roi.
(4)Cyn diwygio ei gynllun, rhaid i bob bwrdd ymgynghori â’r canlynol—
(a)y Comisiynydd;
(b)y personau y soniwyd amdanynt yn adran 43(1).
(5)Rhaid i gynllun diwygiedig gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(6)Rhaid i fwrdd anfon copi o’i gynllun diwygiedig at y canlynol—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)y Comisiynydd;
(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(d)pwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I91A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I92A. 44 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi adroddiad—
(a)ymhen dim mwy na 14 o fisoedd ar ôl cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, a
(b)yn dilyn hynny, ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl cyhoeddi bob adroddiad blaenorol o dan yr adran hon.
(2)Ond nid oes angen adroddiad o dan is-adran (1)(b) os yw cynllun llesiant lleol i’w gyhoeddi yn rhinwedd adran 39(7) (cyhoeddi cynllun llesiant lleol newydd ar ôl etholiad) ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad blaenorol o dan yr adran hon.
(3)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon bennu’r camau a gymerwyd ers cyhoeddi cynllun llesiant lleol diweddaraf y bwrdd i gyflawni’r amcanion a nodir yn y cynllun.
(4)Caiff adroddiad o dan yr adran hon gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r bwrdd yn ei hystyried yn briodol.
(5)Rhaid i fwrdd anfon copi o bob adroddiad a gyhoeddwyd o dan yr adran hon at y canlynol—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)y Comisiynydd;
(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(d)pwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I93A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I94A. 45 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau a diddymiadau o ganlyniad i ddarpariaethau’r Rhan hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi asesiadau llesiant lleol (o dan adran 37) a chynlluniau llesiant lleol (o dan adran 39).
Gwybodaeth Cychwyn
I95A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I96A. 46 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i uno os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i uno os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.
F13(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4)Os yw dau neu ragor o fyrddau yn uno—
(a)rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon (ac eithrio yn yr adran hon) at fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y bwrdd unedig, a
(b)rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon at ardal awdurdod lleol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at ardaloedd cyfunedig yr awdurdodau lleol sy’n aelodau o’r bwrdd unedig.
[F14(5)Rhaid i fwrdd unedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei sefydlu, adolygu—
(a)y cynlluniau llesiant lleol a oedd yn weithredol ar gyfer ei ardal yn union cyn iddo gael ei sefydlu, a
(b)yr amcanion lleol a nodir yn y cynlluniau hynny.
(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl adolygiad o dan is-adran (5), rhaid i’r bwrdd baratoi a chyhoeddi ar gyfer ei ardal gynllun llesiant lleol a gaiff fabwysiadu’r cynlluniau a’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (5)(a) a (b)—
(a)i’r graddau y bo’r bwrdd yn ystyried bod hynny’n briodol, a
(b)yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a’r newidiadau hynny y mae’r bwrdd yn ystyried eu bod yn briodol.
(7)Caiff bwrdd unedig, os yw’n ystyried y byddai hynny’n cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant—
(a)daduno, neu
(b)daduno yn rhannol (os gwnaeth tri bwrdd neu ragor uno i greu’r bwrdd unedig).
(8)Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried y byddai hynny’n cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant, gyfarwyddo bwrdd unedig—
(a)i ddaduno, neu
(b)i ddaduno yn rhannol (os gwnaeth tri bwrdd neu ragor uno i greu’r bwrdd unedig).
(9)At ddibenion is-adrannau (7) ac (8), mae bwrdd unedig—
(a)yn daduno os yw’n peidio â bodoli a bod bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar wahân yn cael ei sefydlu ar gyfer ardal pob awdurdod lleol a oedd yn aelod o’r bwrdd unedig;
(b)yn daduno yn rhannol—
(i)os yw’n parhau i fodoli fel y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd dau awdurdod lleol neu ragor, a
(ii)os sefydlir bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar wahân ar gyfer ardal pob awdurdod lleol sydd wedi peidio â bod yn aelod o’r bwrdd unedig.
(10)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir ar ôl daduno neu ddaduno yn rhannol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei sefydlu, adolygu—
(a)y cynllun llesiant lleol a oedd yn weithredol ar gyfer ei ardal yn union cyn iddo gael ei sefydlu, a
(b)yr amcanion lleol a nodir yn y cynllun hwnnw.
(11)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl adolygiad o dan is-adran (10), rhaid i’r bwrdd baratoi a chyhoeddi ar gyfer ei ardal gynllun llesiant lleol a gaiff fabwysiadu’r cynllun a’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (10)(a) a (b)—
(a)i’r graddau y bo’r bwrdd yn ystyried bod hynny’n briodol, a
(b)yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a’r newidiadau hynny y mae’r bwrdd yn ystyried eu bod yn briodol.
(12)Cyn cyhoeddi cynllun o dan is-adran (6) neu (11), rhaid i fwrdd ymgynghori ag—
(a)y Comisiynydd;
(b)Gweinidogion Cymru;
(c)unrhyw bersonau eraill y mae’r bwrdd yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(13)Rhaid i fwrdd anfon copi o gynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan is-adran (6) neu (11) at y personau a grybwyllir yn adran 44(6).]
Diwygiadau Testunol
F12Geiriau yn a. 47 pennawd wedi eu hamnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(5)
F13A. 47(3) wedi ei hepgor (20.3.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 165(2), 175(3)(q)
F14A. 47(5)-(13) wedi ei fewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 165(3), 175(3)(q)
Gwybodaeth Cychwyn
I97A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I98A. 47 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i gydlafurio os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i gydlafurio ym mha ffodd bynnag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.
(3)At ddibenion yr adran hon, mae bwrdd yn cydlafurio os yw’n—
(a)cydweithredu â bwrdd arall,
(b)hwyluso gweithgareddau bwrdd arall,
(c)cydgysylltu ei weithgareddau â bwrdd arall,
(d)arfer swyddogaethau bwrdd arall ar ei ran, neu
(e)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i fwrdd arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I99A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I100A. 48 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 47(2) neu [F16(8) neu adran] 48(2) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob aelod o’r bwrdd [F17neu’r byrddau] gwasanaethau cyhoeddus y maent yn bwriadu eu cyfarwyddo.
(2)Wrth roi cyfarwyddyd o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau dros wneud hynny.
[F18(3)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd o’r fath.]
Diwygiadau Testunol
F15Gair yn a. 49 pennawd wedi ei fewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(6)(c)
F16Geiriau yn a. 49(1) wedi eu mewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(6)(a)(i)
F17Geiriau yn a. 49(1) wedi eu mewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(6)(a)(ii)
F18A. 49(3) wedi ei fewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(6)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I101A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I102A. 49 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu dangosyddion a safonau ar gyfer mesur perfformiad byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran arfer ei swyddogaethau.
(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)aelodau y byrddau neu bersonau sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru fel pe baent yn cynrychioli’r aelodau hynny;
(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I103A. 50 mewn grym ar 30.4.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(b)
I104A. 50 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)Wrth arfer swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ystyried canllawiau o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I105A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I106A. 51 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(m)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio adran 6(1) drwy—
(a)ychwanegu person,
(b)tynnu person ymaith, neu
(c)diwygio’r disgrifiad o berson.
(2)Ond ni chaiff y rheoliadau ond ddiwygio adran 6(1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.
(3)Os yw’r rheoliadau yn diwygio adran 6(1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw Rhannau 1 i 3 ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny sydd ganddo sydd o natur gyhoeddus.
(4)Cyn gwneud rheoliadau sy’n diwygio adran 6(1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)y Comisiynydd;
(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol;
(c)os yw’r rheoliadau yn diwygio adran 6(1) er mwyn ychwanegu person, y person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I107A. 52 mewn grym ar 30.4.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(b)
I108A. 52 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(n)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, atodol, drosiannol neu arbed at ddibenion rhoi effaith lawn i un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hi.
(2)Caiff y rheoliadau (ymysg pethau eraill) ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y canlynol neu mewn offeryn a wnaed o dan y canlynol—
(a)Deddf Seneddol;
(b)Mesur neu Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol (gan gynnwys y Ddeddf hon).
(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at ddeddfiad yn cynnwys cyfeiriad at ddeddfiad sydd wedi ei phasio neu ei gwneud ar ôl pasio’r Ddeddf hon.
(4)Nid yw’r pŵer a ddyroddir gan yr adran hon wedi ei gyfyngu gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I109A. 53 mewn grym ar 30.4.2015, gweler a. 56(1)(a)
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys—
(a)pŵer i wneud gwahanol ddarpariaeth ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd;
(b)pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, canlyniadol, trosiannol neu atodol y mae Gweinidogion Cymru yn ei hystyried yn briodol.
(2)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(3)Caiff offeryn statudol sy’n cynnwys darpariaeth fel y ddarpariaeth a grybwyllir yn is-adran (1)(b), yn achos rheoliadau o dan adran 33(1), 40(3) neu 52(1), gynnwys darpariaeth sy’n diwygio deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y canlynol, neu mewn offeryn a wnaed o dan y canlynol—
(a)Deddf Seneddol;
(b)Mesur neu Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol (gan gynnwys y Ddeddf hon).
(4)O ran offeryn statudol sy’n cynnwys y canlynol (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd gyda darpariaeth arall)—
(a)rheoliadau o dan adran 40(3) neu 52(1),
(b)rheoliadau o dan adran 33(1) sy’n diwygio adran 29(2) neu 30(1), neu
(c)rheoliadau o dan adran 53 sy’n diwygio neu’n diddymu darpariaeth Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol,
ni chaniateir iddynt gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ac wedi ei gymeradwyo gan ei benderfyniad.
(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddirymu yn unol â phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
(6)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (3) at ddeddfiad yn cynnwys cyfeiriad at ddeddfiad a basiwyd neu a wnaed ar ôl pasio’r Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I110A. 54 mewn grym ar 30.4.2015, gweler a. 56(1)(a)
(1)Yn y Ddeddf hon—
mae i “adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol” (“future trends report”) yr ystyr a roddir gan adran 11;
ystyr “amcanion lleol” (“local objectives”) yw amcanion a osodir gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn unol ag adran 36(2)(b);
ystyr “amcanion llesiant” (“well-being objectives”) yw amcanion a gyhoeddir o dan adran 7 neu a ddiwygir ac a gyhoeddir fel y’u diwygiwyd o dan adran 8 neu 9;
ystyr “ardal heddlu” (“police area”) yw ardal a restrir o dan y pennawd “Wales” yn Atodlen 1 i Ddeddf yr Heddlu 1996 (p.16) (ardaloedd heddlu y tu allan i Lundain);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “awdurdod tân ac achub yng Nghymru” (“Welsh fire and rescue authority”) yw’r awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;
mae i “bwrdd gwasanaethau cyhoeddus” (“public services board”) yr ystyr a roddir gan adran 29 a 47(4)(a);
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);
ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru;
mae i “corff cyhoeddus” (“public body”) yr ystyr a roddir gan adrannau 6 a 52;
[F19ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]
mae i “cyfranogwr gwadd” (“invited participant”) yr ystyr a roddir gan adran 30(5);
ystyr “cynllun llesiant lleol” (“local well-being plan”) yw cynllun a gyhoeddwyd o dan adran 39 [F20, 44(5) neu 47(6) neu (11)] ;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae i “dangosyddion cenedlaethol” (“national indicators”) yr ystyr a roddir gan adran 10(1)(a);
mae i “datblygu cynaliadwy” (“sustainable development”) yr ystyr a roddir gan adran 2;
mae i “egwyddor datblygu cynaliadwy” (“sustainable development principle”) yr ystyr a roddir iddi gan adran 5;
ystyr “nodau llesiant” (“well-being goals”) yw’r nodau a bennir yn adran 4;
ystyr “y panel cynghori” (“the advisory panel”) yw’r panel o gynghorwyr a sefydlwyd o dan adran 26;
ystyr “partneriaid eraill” (“other partners”), mewn perthynas â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, yw’r cyrff a nodir yn adran 32(1);
ystyr “Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly’s Public Accounts Committee”) yw’r pwyllgor y cyfeirir ato fel y “Pwyllgor Archwilio” yn adran 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32);
mae “pwyllgor trosolwg a chraffu” (“overview and scrutiny committee”) i’w ddehongli yn unol ag adran 35(4);
mae i “undeb llafur” (“trade union”) yr ystyr a roddir yn adran 1 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p.52).
(2)Yn Rhan 4 o’r ddeddf hon, ystyr “mudiad gwirfoddol perthnasol” yw corff (ac eithrio corff sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) y mae ei weithgareddau—
(a)yn cael eu cyflawni am reswm heblaw am wneud elw, a
(b)er budd ardal gyfan bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, neu ran o’r ardal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
(3)Mae landlord cymdeithasol cofrestredig (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996) sy’n darparu tai yn yr ardal awdurdod lleol yn fudiad gwirfoddol perthnasol at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf hon.
Diwygiadau Testunol
F19Geiriau yn a. 55(1) wedi eu mewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021 (O.S. 2021/1360), rhlau. 1(2), 2(5)
F20Geiriau yn a. 55 wedi eu hamnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(7)
Gwybodaeth Cychwyn
I111A. 55 mewn grym ar 30.4.2015, gweler a. 56(1)(a)
(1)Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—
(a)adrannau 53 i 55, yr adran hon ac adran 57;
(b)unrhyw ddarpariaeth arall i’r graddau y bo’n angenrheidiol i alluogi arfer ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf.
(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod hwnnw y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn.
(3)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)caiff bennu gwahanol ddiwrnodau ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd;
(b)caiff gynnwys darpariaeth drosiannol neu arbed.
(4)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan is-adran (2) yn arferadwy drwy offeryn statudol.
Gwybodaeth Cychwyn
I112A. 56 mewn grym ar 30.4.2015, gweler a. 56(1)(a)
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gwybodaeth Cychwyn
I113A. 57 mewn grym ar 30.4.2015, gweler a. 56(1)(a)
(cyflwynwyd gan adran 13(1))
1(1)Rhaid i gorff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru neu gorff a grybwyllir yn is-baragraff (3)) gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad am y cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.
(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
[F21(2A)Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff awdurdod lleol gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (hunanasesiad o berfformiad) yn yr un ddogfen.]
(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i—
(a)Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG (am hynny, gweler paragraff 2);
(b)Corff Adnoddau Naturiol Cymru (am hynny, gweler paragraff 3).
Diwygiadau Testunol
F21Atod. 1 para. 1(2A) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 114, 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I114Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I115Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
2(1)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn gyfrifyddu, adroddiad o’r cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.
(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifyddu y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(3)Yn y paragraff hwn, mae i “blwyddyn gyfrifyddu” mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG yr ystyr a roddir gan y gorchymyn—
(a)a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, sy’n sefydlu’r Bwrdd, neu
(b)a wnaed o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I116Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I117Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
3(1)Yn yr Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Dynol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy.230)), ym mharagraff 22(1)(a), ar ôl “honno” mewnosoder “gan gynnwys adroddiad am y cynnydd sydd wedi ei wneud gan yr awdurdod tuag at gyflawni ei amcanion llesiant a gyhoeddir o dan Ran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)”.
(2)Nid yw’r diwygiad a wnaed gan is-baragraff (1) yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn pellach o dan adrannau 13 a 15 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p. 24) i ddiwygio neu ddirymu darpariaeth a wnaed gan y diwygiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I118Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I119Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(cyflwynwyd gan adran 17(4))
1(1)Mae’r Comisiynydd yn gorfforaeth undyn.
(2)Nid yw’r Comisiynydd i gael ei ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn gorff sy’n mwynhau unrhyw statws, eithriad neu fraint perthynol i’r Goron.
(3)Nid yw eiddo’r Comisiynydd i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I120Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I121Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
2(1)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred unigolyn fel Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—
(a)yr unigolyn hwnnw;
(b)unrhyw aelod o’r panel cynghori.
(2)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person sy’n arfer swyddogaethau ar ran y Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—
(a)y person hwnnw;
(b)y Comisiynydd;
(c)unrhyw aelod o’r panel cynghori.
Gwybodaeth Cychwyn
I122Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I123Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
3Mae unigolyn a benodir yn Gomisiynydd yn dal y swydd am gyfnod o 7 mlynedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I124Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I125Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
4Mae’r Comisiynydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i—
(a)darpariaethau’r Atodlen hon, a
(b)unrhyw delerau penodi ychwanegol y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu o dro i dro.
Gwybodaeth Cychwyn
I126Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I127Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
5(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i’r Comisiynydd.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i’r Comisiynydd.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—
(a)pensiynau i unigolion, neu mewn cysylltiad ag unigolion, a fu’n Gomisiynydd, a
(b)symiau ar gyfer darparu neu tuag at ddarparu pensiynau i unigolion, neu mewn cysylltiad ag unigolion, a fu’n Gomisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I128Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I129Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
6(1)Ni chaiff unigolyn gael ei benodi’n Gomisiynydd os bydd yr unigolyn wedi ei anghymwyso ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).
(2)Bydd Comisiynydd yn peidio â bod yn Gomisiynydd os bydd yr unigolyn wedi ei anghymwyso ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).
(3)Mae unigolyn yn anghymwys i fod yn Gomisiynydd os yw’r unigolyn yn—
(a)Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;
(b)aelod o’r panel cynghori;
(c)deiliad unrhyw swydd arall y caiff person ei benodi iddi, neu ei argymell neu ei enwebu ar gyfer ei benodi iddi, gan neu ar ran—
(i)y Goron,
(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu
(iii)Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(d)Aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi;
(e)Aelod o Senedd yr Alban;
(f)Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon;
(g)Aelod o Senedd Ewrop;
(h)aelod o gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;
(i)aelod o staff y Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I130Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I131Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
7(1)Caiff y Comisiynydd ymddiswyddo o’i swydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 3 mis i Weinidogion Cymru o’i fwriad i wneud hynny.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo’r Comisiynydd os ydynt wedi eu bodloni—
(a)ei fod yn anaddas i barhau fel Comisiynydd, neu
(b)ei fod yn analluog neu’n amharod i arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I132Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I133Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
8(1)Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn briodol mewn cysylltiad â swyddogaethau’r Comisiynydd, gan gynnwys—
(a)codi tâl am ddarparu cyngor neu wasanaethau eraill;
(b)talu i drydydd partïon am ddarparu cyngor neu wasanaethau eraill;
(c)derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall.
(2)Ni chaiff y Comisiynydd—
(a)darparu cymorth ariannol i unrhyw berson;
(b)caffael neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,
heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
(3)Mae pŵer y Comisiynydd i godi tâl am ddarparu cyngor neu wasanaeth arall yn gyfyngedig i godi’r symiau hynny y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol i adennill y costau, gwirioneddol neu amcangyfrifedig, o ddarparu’r cyngor neu’r gwasanaeth hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I134Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I135Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
9(1)Caiff y Comisiynydd benodi unrhyw staff y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol o ran arfer swyddogaethau’r Comisiynydd a rhaid iddo benodi aelod o staff i fod yn Ddirprwy Gomisiynydd (gweler paragraff 11).
(2)Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau staff y Comisiynydd.
(3)Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau staff y Comisiynydd.
(4)Caiff y Comisiynydd dalu—
(a)pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd, a
(b)symiau ar gyfer darparu, neu tuag at ddarparu, pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd.
(5)Rhaid i’r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru o ran—
(a)nifer yr aelodau o staff y caniateir eu penodi;
(b)telerau ac amodau gwasanaeth y staff;
(c)unrhyw daliadau y bwriedir eu gwneud o dan is-baragraffau (2) i (4).
Gwybodaeth Cychwyn
I136Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I137Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
10Caiff swyddogaeth y Comisiynydd gael ei chyflawni ar ran y Comisiynydd gan unrhyw berson, gan gynnwys unrhyw aelod o staff y Comisiynydd, ond dim ond i’r graddau y caniateir hynny gan y Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I138Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I139Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
11Mae swyddogaethau’r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—
(a)os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon nad yw’r Comisiynydd yn gallu arfer swyddogaethau Comisiynydd am unrhyw reswm.
Gwybodaeth Cychwyn
I140Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I141Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
12(1)Rhaid i’r comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion am arferiad swyddogaethau’r Comisiynydd (“y weithdrefn gwynion”).
(2)Rhaid i’r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)sut i wneud cwyn;
(b)y person y dylid gwneud cwyn iddo;
(c)y cyfnod ar gyfer dechrau ystyried cwyn a dirwyn cwyn i ben;
(d)y camau gweithredu y mae’n rhaid i’r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.
(3)Caiff y Comisiynydd ddiwygio’r weithdrefn gwynion, ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r gofyniad i gynnwys darpariaethau yn unol ag is-baragraff (2).
(4)Rhaid i’r Comisiynydd—
(a)sicrhau bod copi o’r weithdrefn gwynion ar gael i’w harchwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a
(b)sicrhau y perir bod copïau o’r weithdrefn gwynion ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.
(5)Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r weithdrefn gwynion mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol fod ganddynt ddiddordeb yn y weithdrefn.
Gwybodaeth Cychwyn
I142Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I143Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
13(1)Rhaid i’r Comisiynydd greu a chynnal cofrestr sy’n cynnwys holl fuddiannau cofrestradwy’r Comisiynydd a’r Dirprwy Gomisiynydd.
(2)At ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 14 a 15—
(a)ystyr “buddiannau cofrestradwy” yw unrhyw fuddiannau y pennir eu bod yn fuddiannau cofrestradwy gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (a gall hyn gynnwys buddiannau personau y mae gan y Comisiynydd neu’r Dirprwy Gomisiynydd gysylltiad â hwy, boed yn gysylltiad teuluol, ariannol neu’n unrhyw fath arall o gysylltiad);
(b)ystyr “buddiant” yw buddiant o unrhyw fath (gan gynnwys anrhegion, lletygarwch, rhoddion a dderbynnir, buddiannau ariannol eraill, a phob gweithgaredd a gorchwyl).
(3)Rhaid i’r Comisiynydd ddiweddaru ei gofrestr buddiannau yn barhaus.
Gwybodaeth Cychwyn
I144Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I145Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
14(1)Rhaid i’r Comisiynydd—
(a)sicrhau bod copi o’r gofrestr buddiannau ar gael i’w archwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a
(b)sicrhau y perir bod copïau o’r gofrestr ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.
(2)Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r gofrestr buddiannau mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol bod ganddynt ddiddordeb yn y gofrestr.
Gwybodaeth Cychwyn
I146Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I147Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
15(1)Rhaid i’r Comisiynydd beidio ag arfer swyddogaeth os oes ganddo fuddiant cofrestradwy sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth.
(2)Os bydd hyn yn atal y Comisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid iddo ddirprwyo’r swyddogaeth honno (i’r graddau y bo’n angenrheidiol i alluogi’r gwaith hwnnw o’i harfer i gael ei wneud) i aelod o staff y Comisiynydd.
(3)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r Dirprwy Gomisiynydd sy’n arfer un o swyddogaethau’r Comisiynydd o dan baragraff 11 fel y mae’n gymwys i’r Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I148Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I149Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
16Caiff Gweinidogion Cymru dalu i’r Comisiynydd y symiau, ar yr adegau ac ar y telerau (os oes telerau) sy’n briodol yn eu tyb hwy, mewn cysylltiad â gwariant yr eir iddo wrth gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I150Atod. 2 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I151Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
17(1)Rhaid i’r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol (“adroddiad blynyddol”).
(2)Blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gwneir y penodiad cyntaf i swydd y Comisiynydd o dan adran 17 ac sy’n dod i ben ar y 31 Mawrth canlynol.
(3)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys—
(a)crynodeb o’r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd yn y flwyddyn ariannol honno;
(b)dadansoddiad o effeithiolrwydd y camau hynny o ran galluogi gwireddu dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd (gweler adran 18);
(c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol honno;
(d)cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol;
(e)crynodeb o’r cwynion a wnaed yn unol â’r weithdrefn a sefydlwyd o dan baragraff 12.
(4)Caiff adroddiad blynyddol gynnwys—
(a)asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn cyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
(b)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiynydd yn ei hystyried yn briodol.
(5)Wrth baratoi adroddiad blynyddol, rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â—
(a)y panel cynghori, a
(b)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol.
(6)Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.
(7)Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o bob adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru.
(8)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad blynyddol a anfonir atynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Gwybodaeth Cychwyn
I152Atod. 2 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I153Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
18(1)Y Comisiynydd yw’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Comisiynydd.
(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid y Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan y Trysorlys.
(3)Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys—
(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd;
(c)cyfrifoldeb am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau’r Comisiynydd.
(4)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfrifoldebau sy’n ddyledus i’r canlynol—
(a)y Cynulliad Cenedlaethol, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
(b)Tŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.
(5)Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin (“Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol—
(a)cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin,
(b)cyflwyno adroddiad i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac
(c)trosglwyddo’r dystiolaeth a gymerwyd i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin.
(6)Mae adran 13 o Ddeddf Archwilio Cenedlaethol 1983 (p.44) (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y paragraff hwn yn yr un modd ag y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I154Atod. 2 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I155Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
19(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio’r un gyntaf, rhaid i’r Comisiynydd lunio amcangyfrif o incwm a gwariant y Comisiynydd a’i staff.
(2)Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio amcangyfrif a gyflwynir iddynt yn unol â’r paragraff hwn ac yna rhaid iddynt osod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol gydag unrhyw addasiadau sy’n briodol yn eu tyb hwy.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2Atod. 2 para. 19(2) addasu (23.11.2015) gan Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015 (O.S. 2015/1924), rhlau. 1(2), 4
Gwybodaeth Cychwyn
I156Atod. 2 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I157Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
20(1)Rhaid i’r Comisiynydd—
(a)cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
(b)llunio cyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.
(2)Mae’r cyfarwyddydau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfarwyddydau o ran—
(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i gael eu cyflwyno;
(b)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i gael eu llunio yn unol â hwy;
(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r cyfrifon.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd y maent wedi ei roi o dan y paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I158Atod. 2 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I159Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
21(1)Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddynariannol ganlynol.
(2)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—
(a)archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a
(b)heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â’i adroddiad arnynt.
(3)Wrth archwilio cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ni chaiff yr Archwilydd Cyffredinol ardystio’r cyfrifon cyn bodloni ei hun yr aethpwyd i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithiol ac yn unol â’r awdurdod sy’n ei lywodraethu.
Gwybodaeth Cychwyn
I160Atod. 2 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I161Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
22(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd a wnaed o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd.
(2)Ond nid oes gan yr Archwilydd Cyffredinol yr hawl i gwestiynu teilyngdod amcanion polisi’r Comisiynydd.
(3)Cyn cynnal archwiliad o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—
(a)ymgynghori â Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, a
(b)ystyried barn y Pwyllgor o ran a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.
(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol—
(a)cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, gyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau archwiliad a gyflawnir dan y paragraff hwn, a
(b)gosod copi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Gwybodaeth Cychwyn
I162Atod. 2 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I163Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
23(1)Caniateir i’r Comisiynydd gael sêl.
(2)Mae dogfen—
(a)yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiynydd, neu
(b)yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y Comisiynydd,
i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly.
Gwybodaeth Cychwyn
I164Atod. 2 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I165Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(o)
(cyflwynwyd gan adran 34)
1Cworwm bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yw pob un o’i aelodau.
Gwybodaeth Cychwyn
I166Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I167Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
2(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y sefydlwyd y bwrdd.
(2)Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod cyntaf bwrdd.
Gwybodaeth Cychwyn
I168Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I169Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
3(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredin a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr).
(2)Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod a gynhelir o dan is-baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I170Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I171Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
4(1)Yn y cyfarfod cyntaf, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gytuno ar ei gylch gorchwyl.
(2)Rhaid i’r cylch gorchwyl gynnwys—
(a)y weithdrefn i’w dilyn mewn cyfarfodydd dilynol i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;
(b)amserlen arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd dilynol;
(c)y weithdrefn ar gyfer gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30 i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;
(d)cynigion mewn perthynas â’r ffordd y mae’r bwrdd yn bwriadu cynnwys cyfranogwyr gwadd a’i bartneriaid eraill;
(e)cynigion ar gyfer cynnwys personau sydd, ym marn y bwrdd, â diddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal (yn ogystal ag ymgynghori â phersonau o’r fath yn unol ag adrannau 38(1)(k) a 43(1)(k));
(f)cynigion ar gyfer sefydlu un is-grŵp neu fwy gan gynnwys manylion y swyddogaethau i’w harfer gan unrhyw is-grŵp ar ran y bwrdd (ond gweler paragraff 6);
(g)y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r bwrdd;
(h)unrhyw delerau eraill mewn perthynas â gweithrediad y bwrdd sy’n briodol yn nhyb yr aelodau.
(3)O ran bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
(a)rhaid iddo adolygu ei gylch gorchwyl ym mhob cyfarfod a gynhelir o dan baragraff 3(1), a
(b)caiff ei adolygu mewn unrhyw gyfarfod arall.
(4)Yn dilyn adolygiad, caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddiwygio ei gylch gorchwyl.
Gwybodaeth Cychwyn
I172Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I173Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
5Rhaid i’r awdurdod lleol beri bod cymorth gweinyddol ar gael i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus.
Gwybodaeth Cychwyn
I174Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I175Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
6(1)O ran is-grŵp o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
(a)rhaid iddo gynnwys o leiaf un aelod o’r bwrdd, a
(b)caiff gynnwys unrhyw gyfranogwr a wahoddir neu bartner arall.
(2)Caiff is-grŵp arfer unrhyw rai o swyddogaethau’r bwrdd ag y mae’r bwrdd yn ei awdurdodi yn ei gylch gorchwyl.
(3)Ond ni chaiff y cylch gorchwyl hwnnw awdurdodi is-grŵp i—
(a)gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30;
(b)gosod, adolygu neu ddiwygio amcanion lleol y bwrdd;
(c)paratoi a chyhoeddi asesiad llesiant o dan adran 37;
(d)ymgynghori o dan adran 38 neu baratoi drafft o asesiad o dan adran 37 at ddiben ymgynghori;
(e)paratoi neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol;
(f)ymgynghori o dan adran 43 neu paratoi drafft o gynllun llesiant lleol at ddiben ymgynghori;
(g)adolygu neu ddiwygio cynllun llesiant lleol neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol diwygiedig;
(h)ymgynghori o dan adran 44[F22neu 47] ;
(i)cytuno i’r bwrdd—
(i)uno â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus arall o dan adran 47(1),
[F23(ia)os yw’r bwrdd yn fwrdd unedig o dan adran 47, daduno neu ddaduno yn rhannol o dan adran 47(7), neu]
(ii)cydlafurio â bwrdd arall o dan adran 48(1).
Diwygiadau Testunol
F22Geiriau yn Atod. 3 para. 6(3)(h) wedi eu mewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(8)(a)
F23Atod. 3 para. 6(3)(ia) wedi ei fewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(8)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I176Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I177Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
7(1)Rhaid i bob aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael ei gynrychioli mewn cyfarfod gan—
(a)yr unigolyn a bennir mewn perthynas â’r aelod hwnnw yn y Tabl canlynol, neu
(b)unrhyw unigolyn arall y mae’r unigolyn y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn ei ddynodi (ond ni chaiff maer etholedig neu arweinydd gweithredol awdurdod lleol ond ddynodi aelod arall o weithrediaeth yr awdurdod).
Aelod | Cynrychiolydd |
---|---|
Awdurdod lleol | Maer etholedig yr awdurdod neu’r cynghorydd sydd wedi ei ethol fel arweinydd gweithredol yr awdurdod, a pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod a ddynodir o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). |
Bwrdd Iechyd Lleol | Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi— (a) y cadeirydd; (b) y prif swyddog; (c) y ddau. |
Awdurdod tân ac achub yng Nghymru | Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi— (a) y cadeirydd; (b) y prif swyddog; (c) y ddau. |
Corff Adnoddau Naturiol Cymru | Y prif weithredwr |
(2)Mae i “maer etholedig” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “elected mayor” ac “executive leader” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).
(3)Mae cyfranogwr gwadd i gael ei gynrychioli mewn cyfarfod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gan yr unigolyn a ddynodir gan y cyfranogwr.
(4)Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wahodd unrhyw rai o’i bartneriaid eraill i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r bwrdd (neu unrhyw ran o gyfarfod o’r fath).
(5)Mae partner arall o’r fath i gael ei gynrychioli yn y cyfarfod gan yr unigolyn a bennir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn y gwahoddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I178Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I179Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
(cyflwynwyd gan adran 46)
1Yn adran 38(2A)(b) o Ddeddf Addysg 1997, yn lle “sections 25 and 26” rhodder “section 25”.
Gwybodaeth Cychwyn
I180Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I181Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
2Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I182Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I183Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
F243. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F24Atod. 4 para. 3 wedi ei hepgor (1.11.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), a. 175(7), Atod. 3 para. 7; O.S. 2021/231, ergl. 4(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I184Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I185Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
F254. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F25Atod. 4 para. 4 wedi ei hepgor (1.11.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), a. 175(7), Atod. 3 para. 7; O.S. 2021/231, ergl. 4(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I186Atod. 4 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I187Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
5Yn adran 21 (pwyllgorau trosolwg a chraffu), yn is-adran (4), ar y diwedd, mewnosoder “or Part 4 of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I188Atod. 4 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I189Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
6Yn adran 21B o’r Ddeddf honno (dyletswydd awdurdod i ymateb i’r pwyllgor trosolwg a chraffu), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)A report or recommendation to a public services board by virtue of section 35(1)(c) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) is not to be regarded for the purposes of this section as a report or recommendation to the local authority that is a member of the board.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I190Atod. 4 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I191Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
7Yn adran 21(9) o Ddeddf Addysg 2002 (cyfrifoldeb cyffredinol am weithrediad yr ysgol: diffiniad o “cynllun plant a phobl ifanc perthnasol”), yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)in relation to a school in Wales, a local well-being plan published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by a public services board of which the local authority is a member.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I192Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I193Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
8Mae adran 62 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (cynllun datblygu lleol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I194Atod. 4 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I195Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
9Yn is-adran (5)(d), yn lle “community strategy” rhodder “local well-being plan”.
Gwybodaeth Cychwyn
I196Atod. 4 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I197Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
10Yn lle is-adran (7) rhodder—
“(7)A local well-being plan is relevant if it has been published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by—
(a)in the case of an authority which is a county council or county borough council, the public services board of which that authority is a member;
(b)in the case of an authority which is a National Park Authority, the public services board for an area that includes any part of that authority’s area.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I198Atod. 4 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I199Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
11Mae Deddf Plant 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I200Atod. 4 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I201Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
12Yn adran 25 (cydweithredu i wella lles: Cymru), ar ôl is-adran (9) mewnosoder—
“(9A)Information about the arrangements a local authority in Wales makes under this section may be included in the local well-being plan published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by the public services board of which the local authority is a member.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I202Atod. 4 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I203Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
13Mae adran 26 (cynlluniau plant a phobl ifanc: Cymru) wedi ei diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I204Atod. 4 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I205Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
14Yn adran 27—
(a)yn is-adran (1)(a), yn lle’r geiriau “sections 25 and 26” rhodder “section 25”;
(b)yn is-adran (1)(b), yn lle’r geiriau “those sections” rhodder “that section”;
(c)“Responsibility for functions under section 25” fydd pennawd yr adran.
Gwybodaeth Cychwyn
I206Atod. 4 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I207Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
15Yn adran 30(2)(a) (archwilio swyddogaethau o dan Ran 3), mae’r geiriau “or 26” wedi eu diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I208Atod. 4 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I209Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
16Yn adran 50A(2)(c) (ymyriad - Cymru), mae’r geiriau “, 26” wedi eu diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I210Atod. 4 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I211Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
17Mae adran 66(7) (y weithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 26) wedi ei diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I212Atod. 4 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I213Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
18Ym mharagraff 35(4) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gweithdrefnau’n ymwneud â phwerau penodol cyn cychwyn i wneud is-ddeddfwriaeth), yn Nhabl 2 mae’r eitemau sy’n ymwneud ag adran 26(2)(f) a (4) o Ddeddf Plant 2004 wedi eu diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I214Atod. 4 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I215Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
19Mae adran 40 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (strategaethau iechyd a llesiant yng Nghymru) wedi ei diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I216Atod. 4 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I217Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
20Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I218Atod. 4 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I219Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
21Mae Rhan 2 (Strategaethau cymunedol a chynllunio cymunedol) wedi ei diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I220Atod. 4 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I221Atod. 4 para. 21 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
22Mae adrannau 48(2)(b), 50(5)(c) a 51(3) wedi eu diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I222Atod. 4 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I223Atod. 4 para. 22 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
23Mae Atodlen 3 wedi ei diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I224Atod. 4 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I225Atod. 4 para. 23 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
24Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I226Atod. 4 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I227Atod. 4 para. 24 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
25Yn adran 2(8), mae’r geiriau “ac adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31)” wedi eu diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I228Atod. 4 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I229Atod. 4 para. 25 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
26Yn adran 4 (strategaethau a lunnir gan awdurdodau lleol)—
(a)yn is-adran (1), yn lle’r geiriau “fydd yr awdurdod yn cyhoeddi cynllun o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31)” rhodder “gaiff cynllun llesiant lleol ei gyhoeddi o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod yn aelod ohono, ond dim ond os yw strategaeth yr awdurdod yn yn rhan gyfannol o’r cynllun hwnnw”; a
(b)mae is-adrannau (2) a (3) wedi eu diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I230Atod. 4 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I231Atod. 4 para. 26 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
27Yn adran 5 (strategaethau a lunnir gan awdurdodau Cymreig eraill)—
(a)mae is-adran (4) wedi ei diddymu; a
(b)yn is-adran (5), yn lle’r geiriau sy’n dechrau â “gynllun” hyd at ddiwedd yr isadran, rhodder “gynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal awdurdod lleol y mae’r awdurdod Cymreig yn arfer swyddogaethau ynddi.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I232Atod. 4 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I233Atod. 4 para. 27 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
28Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I234Atod. 4 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I235Atod. 4 para. 28 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
29Yn adran 2 (Cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Caiff cynllun ei gofnodi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae pob un o’r partneriaid yn aelodau ohono.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I236Atod. 4 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I237Atod. 4 para. 29 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
30Mae adran 11 (diwygio Deddf Plant 2004) wedi ei diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I238Atod. 4 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I239Atod. 4 para. 30 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
31Mae adran 128 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phwerau cynghorau cymunedol i hyrwyddo llesiant) wedi ei diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I240Atod. 4 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I241Atod. 4 para. 31 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
32Yn adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd), ar ôl is-adran (3)(c) mewnosoder—
“(ca)ymchwiliad o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (ymchwiliadau o gyrff cyhoeddus at ddibenion asesu i ba raddau y mae corff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy);”.
Gwybodaeth Cychwyn
I242Atod. 4 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I243Atod. 4 para. 32 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
33Yn adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol), mae is-adrannau (3) a (4) wedi eu diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I244Atod. 4 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I245Atod. 4 para. 33 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
34Ar ôl yr adran honno mewnosoder—
(1)Yn yr adran hon, ystyr “corff perthnasol” yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd o dan adran 14(1).
(2)Rhaid i bob corff perthnasol baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi—
(a)ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, mewn ymateb i’r asesiad o anghenion o dan baragraffau (a) i (c) o adran 14(1);
(b)yn achos awdurdod lleol, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, wrth geisio sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol);
(c)yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw beth y mae’r Bwrdd yn bwriadu ei wneud mewn cysylltiad â’i ddyletswydd o dan adran 15(5) (Byrddau Iechyd Lleol i roi sylw i bwysigrwydd camau ataliol wrth arfer swyddogaethau);
(d)sut y mae’r gwasanaethau a nodir yn y cynllun i gael eu darparu, gan gynnwys y gweithredoedd y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd i ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;
(e)unrhyw weithredoedd eraill y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r asesiad o dan adran 14(1);
(f)manylion unrhyw beth y mae’r corff yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i’r asesiad ar y cyd â chorff perthnasol arall;
(g)yr adnoddau sydd i’w neilltuo wrth wneud y pethau a nodir yn y cynllun.
(3)Caniateir i gynllun corff perthnasol gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r corff yn aelod ohono.
(4)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd gyda’i gilydd o dan adran 14(1) baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2).
(5)Caiff dau awdurdod lleol neu ragor baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2); ond ni chaniateir i gynllun ar y cyd o’r fath gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol onid yw pob awdurdod lleol yn aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler adrannau 47 a 49 o Ddeddf 2015 (uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus)).
(6)Rhaid i gorff perthnasol gyflwyno’r canlynol i Weinidogion Cymru—
(a)unrhyw ran o gynllun a baratowyd ganddo o dan is-adran (2) sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant gofalwyr;
(b)unrhyw ran arall o gynllun o’r fath y caniateir ei ragnodi drwy reoliadau.
(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynlluniau a baratoir ac a gyhoeddir o dan is-adran (2), gan gynnwys darpariaeth—
(a)sy’n pennu pryd y mae cynllun i gael ei gyhoeddi;
(b)ynghylch adolygu cynllun;
(c)ynghylch ymgynghori â phersonau wrth baratoi neu adolygu cynllun;
(d)ynghylch monitro a gwerthuso gwasanaethau a gweithredoedd eraill a nodir mewn cynllun.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I246Atod. 4 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I247Atod. 4 para. 34 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 4
35Yn adran 5 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(5A)Caniateir cyhoeddi strategaeth leol neu strategaeth ddiwygiedig drwy ei chynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol ill dau yn aelodau ohono.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I248Atod. 4 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I249Atod. 4 para. 35 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: