xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CGWELLA LLESIANT

Datblygu cynaliadwy a dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddusLL+C

2Datblygu cynaliadwyLL+C

Yn y Ddeddf hon, ystyr “datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (gweler adran 5), gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant (gweler adran 4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 2 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

3Dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddusLL+C

(1)Rhaid i bob corff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy.

(2)Rhaid i weithredoedd corff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy gynnwys⁠—

(a)gosod a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant, a

(b)cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny.

(3)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan osod amcanion mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(4)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â rhan o Gymru yn unig osod amcanion mewn perthynas â’r rhan honno neu unrhyw ran ohoni.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I4A. 3 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

4Y nodau llesiantLL+C

Mae’r nodau llesiant wedi eu nodi a’u disgrifio yn Nhabl 1—

TABL 1
NodDisgrifiad o’r nod
Cymru lewyrchus.Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar [F1waith teg].
Cymru gydnerth.Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).
Cymru iachach.Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Cymru sy’n fwy cyfartal.Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).
Cymru o gymunedau cydlynus.Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I6A. 4 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

5Yr egwyddor datblygu cynaliadwyLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, mae unrhyw gyfeiriad at y ffaith bod corff cyhoeddus yn gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

(2)Er mwyn gweithredu yn y modd hwn, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried y pethau canlynol—

(a)pwysigrwydd cydbwyso anghenion y tymor byr gyda’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor, yn enwedig pan allai pethau a wneir i ddiwallu anghenion tymor byr gael effaith niweidiol yn yr hirdymor;

(b)yr angen i gymryd ymagwedd integredig, drwy ystyried—

(i)ym mha ffordd y gallai amcanion llesiant y corff effeithio ar bob un o’r nodau llesiant;

(ii)effaith amcanion llesiant y corff ar ei gilydd neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill, yn arbennig pan all camau a gymerir gan y corff gyfrannu at gyflawni un amcan ond y gall fod yn niweidiol i gyflawni un arall;

(c)pwysigrwydd cynnwys personau eraill sydd â diddordeb mewn cyrraedd y nodau llesiant a sicrhau bod y personau hynny’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth—

(i)Cymru (pan fo’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan), neu

(ii)y rhan o Gymru y mae’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi;

(d)ym mha ffordd y gallai cydlafurio ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r corff yn gweithio ar y cyd) gynorthwyo’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant, neu gynorthwyo corff arall i gyflawni ei amcanion;

(e)ym mha ffordd y gallai defnyddio adnoddau i atal problemau rhag digwydd neu waethygu gyfrannu at gyflawni amcanion llesiant y corff neu amcanion corff arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I8A. 5 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

6Ystyr “corff cyhoeddus”LL+C

(1)At ddibenion y Rhan hon a Rhan 3 o’r Ddeddf hon, mae pob un o’r personau canlynol yn “gorff cyhoeddus”—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdod lleol;

[F2(ba)cyd-bwyllgor corfforedig;]

(c)Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—

(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;

(ii)Felindre;

(e)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;

(g)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(h)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(i)Cyngor Celfyddydau Cymru;

(j)Cyngor Chwaraeon Cymru;

(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

(l)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

(2)Mae adran 52 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio ystyr “corff cyhoeddus”.

(3)Mae Pennod 1 o Ran 4 yn darparu bod personau sydd wedi eu rhestru fel cyrff cyhoeddus yn is-adran (1) (yn ogystal â phersonau penodol eraill sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) naill ai yn aelodau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir o dan y Rhan honno, neu’n gyfranogwyr gwadd neu’n bartneriaid eraill i fyrddau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I10A. 6 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(b)